Stiff Person Syndrome: ‘Heb Celine Dion, fyswn i ddim wedi cael diagnosis’
Stiff Person Syndrome: ‘Heb Celine Dion, fyswn i ddim wedi cael diagnosis’
Mae David Holt o Borth-y-Gest yng Ngwynedd wedi cael problemau gyda’i gyhyrau am flynyddoedd.
Roedd ei gorff yn teimlo fel petai'n "cloi" wrth orwedd yn ei wely, gan ei orfodi i gropian i’r toiled yn ystod y nos.
Ond doedd neb yn gwybod beth oedd yn achosi ei symptomau.
Erbyn hyn, mae’r tad i ddau wedi derbyn diagnosis o gyflwr niwrolegol prin – ac mae’n diolch yn rhannol i’r gantores Celine Dion am hynny.
"Dw i’n gwybod yn iawn os fyswn i heb ddarllen stori Celine Dion am Stiff Person Syndrome, a dyfalbarhau i wthio am atebion, fyswn i ddim yn eistedd yma rwan," meddai wrth siarad â Newyddion S4C o Ganolfan Walton yn Lerpwl.
Fe gafodd David ei anfon i'r ysbyty arbenigol ar ôl dweud wrth ei feddyg teulu ei fod yn meddwl fod ganddo'r cyflwr awto-imiwn.
Er mwyn osgoi'r rhestr aros 55 wythnos, fe benderfynodd dalu'n breifat i gael yr atebion y mae wedi bod yn chwilio amdanynt ers tair blynedd.
Mae bellach ar fin dechrau triniaeth o dan oruchwyliaeth y niwrolegydd ymgynghorol Dr Brython Hywel o Lanrug yng Ngwynedd.
Yn ôl Dr Brython Hywel, mae Stiff Person Syndrome yn effeithio ar un o bob miliwn o bobl, gan achosi i’r cyhyrau fynd yn anystwyth.
"Mae cael diagnosis o SPS yn gallu bod yn anodd iawn, oherwydd gall anystwythder ac anhyblygedd y cyhyrau gael eu camgymryd yn aml am gyflyrau niwrolegol eraill, fel Clefyd Parkinson's ac Axial Dystonia," meddai.
"Ond mae gennym ni brawf gwaed penodol a phrawf niwroffisiolegol y gallwn ei gynnal i gadarnhau'r diagnosis."
Colli annibyniaeth
Mae David yn profi sbasmau poenus yng ngwaelod ei gefn a'i goesau, ac yn cael problemau symudedd.
Er bod ei symptomau wedi datblygu'n raddol, mae bellach yn ei chael hi'n anodd cerdded heb ddisgyn.
"Os 'da chi'n teimlo eich hun yn disgyn, does na ddim ffordd o'i stopio," meddai.
"Ni allwch blygu, 'da chi'n disgyn fel delw... 'Da chi'n gwybod bo' chi'n mynd i lawr, ac yn gallu gwneud dim byd am y peth."
Yn ôl David, mae'r cyflwr wedi cael "effaith fawr" ar ei annibyniaeth.
"Fyddwn i ddim yn mynd am dro ar fy mhen fy hun heb fy ngwraig, rhag ofn i mi ddisgyn," meddai.
"Mae gennych chi bob amser yr ofn yng nghefn eich meddwl, pe baech chi'n disgyn, yna efallai y byddech chi ar eich pen eich hun heb gymorth."
Ar hyn o bryd, does 'na ddim iachâd ar gyfer Stiff Person Syndrome.
Ond bydd David yn dechrau triniaeth yn y flwyddyn newydd i’w helpu i reoli ei symptomau.
Yn ôl Dr Brython Hywel, mae modd trin y cyflwr gyda'r feddyginiaeth canser Rituximab er mwyn newid y broses imiwnedd sy'n ei achosi.
Cyn hynny, mae'n rhaid i David gael triniaeth cyfnewid plasma, sef proses lle mae'r gwaed yn cael ei hidlo trwy beiriant sy'n debyg i beiriant dialysis.
Mae David yn gobeithio y gall fyw bywyd i'r eithaf unwaith eto'n fuan.
"Y nod yn y pen draw ydi cael fy annibyniaeth yn ôl," meddai.
"Cael mynd nôl ar fy nghaiac a chael mynd nôl ar fy nghwch, a chael gwneud y gweithgareddau dw i'n eu caru."
Ychwanegodd: "Rwy'n ddiolchgar iawn i Celine Dion, mae'r cyhoeddusrwydd o gwmpas ei chyflwr wedi fy rhoi yn y sefyllfa yr wyf ynddi rŵan."
'Lleihau'r oedi'
Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Walton eu bod yn ceisio lleihau'r rhestr aros yn yr ysbyty.
"Ar yr adeg hon, roedd nifer o ffactorau’n effeithio ar amseroedd atgyfeirio niwroleg, gan gynnwys effaith y pandemig Covid-19 a phrinder cenedlaethol o niwrolegwyr yn y GIG, sy’n golygu bod Canolfan Walton yn un o’r ychydig ysbytai a allai dderbyn atgyfeiriadau o’r math hwn," medden nhw.
"Ers hynny, mae ein timau wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael â materion sy’n achosi oedi, gan arwain at welliant sylweddol mewn amseroedd atgyfeirio."