Band Biwmares yn cipio'r drydedd wobr yn Ewrop
15/05/2024
Mae Band Seindorf Biwmares wedi dod yn drydydd ar draws Ewrop ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop yn Palanga, Lithuania.
Dim ond un pwynt oedd rhwng y bandiau a ddaeth yn ail ac yn drydydd.
Yn ôl Arweinydd Band Ieuenctid Seindorf Biwmares, Pete Cowlishaw roedd yn “brofiad anhygoel i’r cerddorion ifanc i deithio i Lithwania a perfformio ar y llwyfan yna".
"Fe wnaethon nhw wneud Biwmares a Cymru yn falch iawn. Diolch i bawb am ein cefnogi ac am wneud hyn i gyd yn bosibl," meddai.
Dywedodd Gary Pritchard, Ysgrifennydd Seindorf Beaumaris: “Roedd gweld cerddorion ifanc Beaumaris yn cystadlu ar yr un llwyfan â bandiau Prifysgolion neu Academïau Cerdd o wledydd eraill yn arbennig.
"Band tref go iawn sydd genyn ni yn Beaumaris ac roedd yn bluen yn ein het fel band cymunedol i fod yn cystadlu ar y lefel uchaf un fel Band Ieuenctid.”
Fe deithiodd 42 o aelodau'r band i'r bencampwriaeth wedi iddynt godi arian trwy gynnal teithiau cerdded noddedig a boreau coffi cerddorol. Roedd targed o £45,000 wedi ei osod er mwyn sicrhau fod y band yn cyrraedd y gystadleuaeth yn nwyrain Ewrop.
Fe enillon nhw'r hawl i gystadlu a chynrychioli Cymru ar ôl cipio'r wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023.
Mewn datganiad ar Facebook dywedodd aelodau'r band eu bod yn falch iawn o'r cyfle i berfformio hefyd.
"Diolch o galon i bawb sydd wedi cysylltu gyda’ch negeseuon. Da ni yn hynod, hynod o falch o berfformiad anhygoel y cerddorion ifanc yma ar lwyfan mwya’r byd i Fand Ieuenctid."
Mi fydd Band Seindorf Biwmares nawr yn cystadlu ym mis Tachwedd ym mhencampwriaeth Youth Brass in Concert 2024.
Llun: Band ieuenctid Seindorf Biwmares