Newyddion S4C

O Fôn i Vilnius: Band pres ifanc yn cynrychioli Cymru yn Lithwania

11/04/2024

O Fôn i Vilnius: Band pres ifanc yn cynrychioli Cymru yn Lithwania

Mae band pres ieuenctid o Fôn yn paratoi i deithio i ben pellaf Ewrop fis nesaf i gystadlu yn erbyn rhai o fandiau gorau’r cyfandir.

Ar ôl cael cipio’r wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023, fe wnaeth band ieuenctid Seindorf Biwmares ennill yr hawl i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop eleni.

Bydd 42 o aelodau’r band yn teithio i ddinas Palanga yn Lithwania fis Mai ar gyfer y bencampwriaeth.

"Swn i’n deud bod o’n debyg iawn i fynd i’r Ewros - yndi, yn union fel 'na a dweud y gwir," meddai Bari Gwilliam, cyfarwyddwr cerdd Seindorf Biwmares.

"Mae o’n fraint i gynrychioli Cymru, a dw i'n gwbod bod bob plentyn a pherson ifanc yn edrych ymlaen i fynd."

Ond gyda’r costau sydd ynghlwm â theithio i ddwyrain Ewrop gydag offerynnau o bob maint, mae’r aelodau wedi bod yn brysur yn codi arian dros y misoedd diwethaf.

Gyda tharged o godi £45,000, mae’r band eisoes wedi cynnal teithiau cerdded noddedig a boreau coffi cerddorol, tra bod un aelod, Elin-Hâf Gwilliam, wedi llwyddo i godi dros £3,000 ar ôl neidio allan o awyren â pharasiwt.

Gyda chwta fis tan y gystadleuaeth, mae’r ymdrechion i godi arian yn parhau gyda thaith feic noddedig ar draws Ynys Môn, o Gaergybi i Benmon, yn ogystal â chyngerdd yn Llangoed yn neuadd y pentref nos Sadwrn.

Band o 'dref fechan'

Fel band o 'dref fechan', mae aelodau Seindorf Biwmares yn falch o allu cynrychioli eu gwlad.

"'Da ni’n mynd yna fel band tref fechan," meddai Gary Pritchard, ysgrifennydd Seindorf Biwmares.

"'Da ni’n cynrychioli Biwmares, 'da ni’n cynrychioli Ynys Môn, a 'da ni’n cynrychioli Cymru ar y llwyfan mwyaf.

"Ond yn fwy na dim, be dwi’n obeithio ydi bod y cerddorion ifanc yma yn mwynhau, yn gweld safon y cystadlu, a bod y gwaddol yna o’r cerddorion ifanc yma yn dod yn ôl i’r ynys ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc nesaf i barhau i chwarae."

Mae’r band wedi bod yn ymarfer ers misoedd ar gyfer y bencampwriaeth, gan gynnal dwy sesiwn yr wythnos dros y misoedd diwethaf.

Bydd y band yn perfformio pedair cân yn y gystadleuaeth.

Er gwaetha'r nerfau, mae aelodau ifanc Seindorf Biwmares yn edrych ymlaen at y cystadlu.

"Dw i'n rili edrych ymlaen am y peth," meddai Lois.

"Dw i'n gyffrous iawn, ond yn dipyn bach yn ofn hefyd," ychwanegodd Sam.

Paratoi

Ym 2018, yn Utrecht yn yr Iseldiroedd, oedd y tro diwethaf i’r band ieuenctid berfformio yn y bencampwriaeth, sydd yn cael ei chynnal gan Gymdeithas Bandiau Brass Ewrop.

Cafodd Seindorf Biwmares ei sefydlu yn 1921, gyda band yr oedolion yn llwyddo i orffen yn y 10 safle uchaf ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2011/12.

Ond mae’r genhedlaeth ifanc nawr yn gobeithio efelychu rhai o berfformiadau mwyaf cofiadwy’r band hŷn a pharhau â hanes cyfoethog Seindorf Biwmares.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.