Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Mawrth, 29 Mehefin.
Llywodraeth San Steffan yn 'unochrog ymosodol' medd Mark Drakeford
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu mewn ffordd "unochrog ymosodol". Mae disgwyl i Mr Drakeford amlinellu cynllun newydd yn ddiweddarach ddydd Mawrth er mwyn "cryfhau perthynas" gwledydd y DU. Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r cynllun, gyda Llywodraeth San Steffan yn dweud fod canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol yn ystod pandemig yn "anghyfrifol".
Heddlu'n ymchwilio i fideo o ddynion yn poeni Chris Whitty - Sky News
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i fideo gael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n dangos Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Yr Athro Chris Whitty, yn cael ei boeni gan ddau ddyn. Mae nifer o bobl, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd newydd Sajid Javid, wedi beirniadu'r hyn sydd i'w weld yn y fideo, gyda rhai yn galw am well amddiffyniad o wyddonwyr sy'n cynghori'r llywodraeth yn ystod y pandemig.
Angen camau brys i osgoi 'argyfwng cartrefi' yng Nghymru - Golwg360
Mae argyfwng cartrefi yn wynebu Cymru os na fydd camau brys i warchod aelwydydd sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig. Dyna'r rhybudd gan y felin drafod Sefydliad Bevan wrth i ymchwil newydd gan YouGov ar ran y corff ddangos fod un o bob 10 aelwyd yng Nghymru yn byw mewn cartref anniogel.
Mudiad Meithrin i gyflwyno’r Gymraeg i blant Teithwyr, Sipsiwn a Roma
Fe fydd Mudiad Meithrin yn dechrau darparu cylchoedd meithrin, Ti a Fi, ar safleoedd Teithwyr, Sipsiwn a Roma yn ne-ddwyrain Cymru. Dywed Mudiad Meithrin fod y cynllun yn anelu i helpu hyrwyddo a chryfhau perthynas y gymuned â'r Gymraeg yng Nghymru, trwy gyflwyno’r iaith i’r plant ieuengaf a’u gofalwyr.
Euro 2020: Pencampwyr y byd allan o'r bencampwriaeth - Libération
Mae pencampwyr y byd wedi colli eu lle ym mhencampwriaeth Euro 2020, gan orfod gadael y gystadleuaeth ar ôl colli yn erbyn y Swistir yn rownd yr 16 olaf nos Lun. Cafodd Ffrainc, a enillodd Cwpan y Byd 2018, eu curo gan y Swistir gyda'r ddwy garfan yn gorfod cicio o'r smotyn i benderfynu ar eu tynged.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.