Newyddion S4C

Heddlu'n ymchwilio i fideo o ddynion yn aflonyddu Chris Whitty

Sky News 29/06/2021
Whitty

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i fideo gael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n dangos Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Yr Athro Chris Whitty, yn cael ei aflonyddu gan ddau ddyn.

Yn y fideo, mae'r dynion yn rhoi eu breichiau am yr ymgynghorydd meddygol ac yn siantio "oi oi" ac "un llun os gwelwch yn dda".

Mae faniau heddlu i'w gweld yn y cefndir, gyda llais ar ddiwedd y fideo yn dweud "Gadwch y dyn hwn i fod", yn ôl Sky News.

Mae nifer o bobl wedi beirniadu'r hyn sydd i'w weld yn y fideo, gyda rhai yn galw am well amddiffyniad o wyddonwyr sy'n cynghori'r llywodraeth yn ystod y pandemig. 

Cadarnhaodd Heddlu'r Met eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad a'u bod yn parhau i ymchwilio.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Sky News

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.