Newyddion S4C

Mudiad Meithrin i gyflwyno’r Gymraeg i blant Teithwyr, Sipsiwn a Roma

29/06/2021
Mudiad Meithrin

Fe fydd Mudiad Meithrin yn dechrau darparu cylchoedd meithrin, Ti a Fi, ar safleoedd Teithwyr, Sipsiwn a Roma yn ne-ddwyrain Cymru.

Mae’r cynllun yn anelu i helpu hyrwyddo a chryfhau perthynas y gymuned â'r Gymraeg yng Nghymru, trwy gyflwyno’r iaith i’r plant ieuengaf a’u gofalwyr.

Mae mis Mehefin yn fis Teithwyr, Sipsiwn a Roma bob blwyddyn, sef mis i rannu hanes, diwylliant ac iaith y cymunedau hyn ac i ddathlu’r cyfoeth maen nhw’n ei gynnig i fywydau bob dydd pobl ar draws y wlad.

Drwy godi ymwybyddiaeth, mae’n helpu i fynd i’r afael â rhagfarnau, herio mythau a chodi eu lleisiau yn y gymdeithas ehangach.

Yn ôl y mudiad, bydd y prosiect, sydd wedi derbyn grant o £9,715 gan gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn “gam cyntaf tuag at dorri muriau at addysg Gymraeg”, yn ogystal ag “annog ailadeiladu darpariaethau blynyddoedd cynnar ar safleoedd yn dilyn COVID-19”.

'Hynod falch'

Wrth groesawu’r grant, dywedodd Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin: "Rydym yn hynod falch o’r cyfle i ddechrau gweithio gyda chymunedau Teithwyr, Sipsiwn a Roma, ynghyd â derbyn arweiniad gan fudiad Travelling Ahead, a diolchwn am y croeso cynnes.

“Rydym am barhau i sicrhau bod plant a’u teuluoedd o bob cymuned yng Nghymru yn dod i fwynhau chwarae a dysgu trwy’r Gymraeg a hynny trwy gylchoedd Ti a Fi.”

Mae Vikki Alexander, Swyddog Ti a Fi Teithiol Safleoedd Teithwyr, Sipsiwn a Roma, eisoes wedi dechrau cynnal sesiynau ar safle ym Merthyr Tudful, ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal rhai ar safleoedd eraill yn y de-ddwyrain yn y dyfodol.

“Rwyf am ddod â thraddodiadau’r Sipswn a’r Roma a’r Gymraeg at ei gilydd i greu sesiynau Ti a Fi sy’n gynhwysol ac yn ysbrydoli’r plant a’u teuluoedd i ddysgu’r Gymraeg,” eglurodd.

“Dwi'n defnyddio cerddoriaeth, dawnsio a stori i ddod â’r iaith yn fyw i'r plant a’u gofalwyr, ac mae Daisy’r ceffyl wrth law i helpu dysgu enwau rhannau'r corff.

“Maen nhw wedi fy ysbrydoli i i ddysgu mwy am eu diwylliant a’u hanes, a dwi'n gobeithio y galla’ i wneud yr un peth iddyn nhw wrth gyflwyno traddodiadau Cymraeg Cymru.”

Llun: Mudiad Meithrin

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.