Llywodraeth San Steffan yn 'unochrog ymosodol' medd Mark Drakeford
Mae Llywodraeth Cymru yn galw am ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, fel rhan o gynllun i "gryfhau perthynas" gwledydd y DU.
Wrth lansio dogfen ‘Diwygio ein Hundeb’ ddydd Mawrth, bydd y llywodraeth hefyd yn manylu ar gynllun i sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud fod angen ailosod y berthynas â’r DU oherwydd bod Cymru yn gweld “Llywodraeth y DU yn gweithredu mewn ffordd unochrog ymosodol.”
Mae’r ddogfen yn cynnwys 20 pwynt sydd yn anelu i wneud y Deyrnas Unedig yn “gryfach” ac i sicrhau ei bod yn “gweithio’n well i bawb”.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod angen i'r ddau lywodraeth ganolbwyntio ar yr adferiad yn dilyn y pandemig.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru yn y ddogfen.
‘Rhaid i'r ffordd y mae'r Undeb yn gweithio newid’
Dywedodd Mr Drakeford cyn y lansiad: “Rydym yn credu mai trwy ddatganoli cryf – fel bod penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru – a thrwy fod yn bartner cydradd mewn Teyrnas Unedig gref, a fydd wedi’i hadfywio, y bydd anghenion Cymru yn y dyfodol yn cael eu diwallu orau.
“Er mwyn i hyn allu digwydd, rhaid i’r ffordd y mae’r Undeb yn gweithio newid.
“Yn rhy aml, rydym yn gweld Llywodraeth y DU yn gweithredu mewn ffordd unochrog ymosodol, gan honni ei bod yn gweithredu ar ran y DU gyfan, ond heb ystyried statws y gwahanol wledydd a mandadau democrataidd eu llywodraeth...Mae’n amser ailosod y berthynas.”
Ychwanegodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: “Mae Diwygio ein Hundeb yn nodi achos gwirioneddol dros newid ac rydym yn gobeithio y bydd yn ysgogi trafodaeth ehangach am ddyfodol Cymru a dyfodol y DU.
“Hoffem glywed gan gynifer o bobl ag sy’n bosibl wrth inni ddechrau sgwrs genedlaethol am ein dyfodol ni yng Nghymru a’n perthynas â gweddill y DU yn y dyfodol.”
‘Fydd pobl ledled Cymru yn crafu eu pennau’
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi cwestiynu blaenoriaeth y llywodraeth wrth gyhoeddi manylion yr adroddiad.
“Gyda dim ond ychydig wythnosau ers etholiad y Senedd, fe fydd pobl ledled Cymru yn crafu eu pennau gan mai hyn sydd yn cael ei flaenoriaethu gan lywodraeth Llafur ym Mae Caerdydd," dywedodd.
“Rydym wedi bod trwy gyfnod eithriadol o anodd. Mae pobl eisiau gwybod sut fydd llywodraethau a gweinidogion yn cynnig sicrwydd dros swyddi, cyfleoedd newydd a darparu cynllun clir ar gyfer adferiad economaidd yng Nghymru – nid dadl gyfansoddiadol a galwadau am fwy o bwerau i wleidyddion y Senedd.”
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Mae Llafur wedi bod yn sôn am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ers bron i ddegawd, gyda’r Prif Weinidog ar y pryd Carwyn Jones yn addo hyn mor bell yn ôl â 2012.
“Ond does dim byd yn digwydd. Mae agwedd Llafur tuag at yr undeb i’w weld yn sownd yn y gorffennol.
“Dyw’r DG ddim ond yn fregus - mae'n methu'n llwyr o ran darparu cyfiawnder economaidd a chymdeithasol i bobl Cymru.
“Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw trwy roi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru.
"Mae'n bryd i Lafur yng Nghymru roi'r gorau i amddiffyn yr anesgusodol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod angen i'r ddau lywodraeth ganolbwyntio ar yr adferiad yn dilyn y pandemig, a bod canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol mewn pandemig yn "anghyfrifol".
Prif lun: Llywodraeth Cymru