Euro 2020: Pencampwyr y byd allan o'r bencampwriaeth
29/06/2021
Mae pencampwyr y byd wedi colli eu lle ym mhencampwriaeth Euro 2020, gan orfod gadael y gystadleuaeth ar ôl colli yn erbyn y Swistir yn rownd yr 16 olaf nos Lun.
Cafodd Ffrainc, a enillodd Cwpan y Byd 2018, eu curo gan y Swistir gyda'r ddwy garfan yn gorfod cicio o'r smotyn i benderfynu ar ba dîm fyddai'n camu i'r rownd nesaf, yn ôl Libération.
Fe orffennodd Y Swistir y tu ôl i Gymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp A, ond roedd chwalfa i Gymru yn erbyn Denmarc ddydd Sadwrn ar ôl colli o 4-0 yn golygu na fydd y crysau cochion yn parhau yn y bencampwriaeth.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Кирилл Венедиктов (drwy Wikimedia Commons)