Pwy yw'r sêr sydd wedi eu henwebu yng ngwobrau BAFTA Cymru nos Sul?

Bafta Cymru

Fe fydd sêr y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru yn heidio i Gasnewydd nos Sul ar gyfer seremoni wobrwyo BAFTA Cymru.

Y cyflwynydd Owain Wyn Evans fydd yn arwain y noson yng nghanolfan ICC Cymru, gyda llu o enwogion yn ymuno ar y llwyfan i gyhoeddi’r enillwyr.

Bydd gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn 17 categori, gan gydnabod llwyddiant y rheiny sy’n gweithio oddi ar y sgrin yn ogystal â pherfformwyr.

Y ffilm Madfabulous, sy’n adrodd hanes Pumed Marcwis Môn, Henry Cyril Paget, sydd wedi hawlio’r nifer fwyaf o enwebiadau - chwech i gyd.

Yn eu plith mae enwebiad am yr Actor Gorau i Callum Scott Howells, sy’n mynd benben yn y categori hwn â Tom Cullen (Trespasses) a’r cewri Jonathan Pryce (Under Salt Marsh) a Matthew Rhys (The Beast in Me).

Image
Ffilm Madfabulous. Lluniau hyrwyddo
Callum Scott Howells sy'n serennu ym Madfabulous. (Llun hyrwyddo)

Mae tri enwebiad i gyd i’r gyfres Under Salt Marsh, tra fod The Guest yn derbyn pum, gan gynnwys degfed enwebiad BAFTA i Eve Myles yn y categori Actores Orau.

Mae ei chydweithwraig ar yr un cynhyrchiad, Gabrielle Creevy, hefyd yn y ras, yn ogystal â Buddug Povey, sydd wedi ei henwebu am ei rôl yn Rownd a Rownd, a Sian Reese-Williams am Power: The Downfall of Huw Edwards.

Ymhlith y cynyrchiadau sydd wedi cael dau enwebiad mae'r ddrama Gymraeg Bariau, y rhaglen ddogfen Y Crwydryn a'r gyfres ddrama Y Golau: Dŵr. 

Mae Y Golau: Dŵr yn cystadlu â Stad a The Guest am y wobr Drama Deledu Orau. Ym maes Rhaglen Adloniant Orau, mae enwebiadau i Amour a Mynydd, Other Voices: Cardigan 2025 With Huw Stephens, Stiwdio 24/7 ac Y Llais.

Yn herio Madfabulous am Ffilm Nodwedd neu Deledu orau mae Mr Burton, Tanau’r Lloer a The Man In My Basement.

Image
Mari Grug (chwith) a Maxine Hughes (dde)
Mae Mari Grug (chwith) a Maxine Hughes (dde) wedi cael eu henwebu am raglenni am ganser. (Lluniau S4C)

Mae rhaglen y cyflwynydd Maxine Hughes ar ei salwch, Canser: Ar Ba Gost, ymhlith yr enwebiadau yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes, gyda Foden: O Brifathro i Bedoffeil, The Hospice - Caring To The End a Cymru Ar Gyffuriau.

Mae Mari Grug, sydd hefyd wedi creu rhaglen am fyw â thriniaeth canser, wedi ei henwebu yn y categori Cyflwynydd Gorau, gyda Sian Eleri a Huw Stephens hefyd yn y ras.

Carol Vorderman, fu’n serennu ar raglen Countdown am flynyddoedd lawer, fydd yn cael Gwobr Siân Phillips am Gyfraniad Arbennig i’r Byd Teledu, tra fod y cyfarwyddwr castio Lauren Evans yn derbyn enillydd Gwobr BAFTA Cymru am Gyfraniad Arbennig i’r Grefft.

'Gwisgoedd hollol ffabiwlys'

Dywedodd Owain Wyn Evans: “Fi wrth fy modd o fod nôl yn cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru! Nes i fwynhau cymaint llynedd, nes i ddim oedi o gwbl pan naethon nhw ofyn i fi ddod nôl leni. 

"Mae e’n gymaint o hwyl dathlu’r talent arbennig sydd ganddon ni yng Nghymru, y storïwyr, y perfformwyr a’r bobl greadigol sy’n parhau i greu rhaglenni teledu a ffilmiau o safon fyd-eang sy’n gwneud ni i gyd mor falch.

"Dw i’n gwybod y bydd hi’n noson arall i’w chofio, yn llawn dathliadau haeddiannol, ambell i syrpreis, digon o sbarcl ac, ar ôl llynedd, gwisgoedd hollol ffabiwlys ar y carped coch."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.