Cipolwg ar benawdau'r dydd
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar ddydd Sul, 27 Mehefin.
Gareth Bale i 'barhau i chwarae dros Gymru' tan ddiwedd ei yrfa
Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Gareth Bale, wedi dweud y bydd yn parhau i chwarae dros Gymru nes y bydd yn rhoi'r gorau i'r gêm. Daw hyn ar ôl iddo wrthod ymateb i gwestiynau gan y wasg am ddyfodol ei yrfa gyda Chymru. Fe gollodd Gymru o 4 - 0 yn erbyn Denmarc yn Amsterdam nos Sadwrn, gan ddod a'u gobeithion ym mhencampwriaeth Euro 2020 i ben.
Sajid Javid yn dechrau fel Gweinidog Iechyd wedi ymddiswyddiad Matt Hancock - Sky News
Mae’n “anrhydedd” gan Sajid Javid i gymryd yr awenau fel Gweinidog Iechyd San Steffan yn dilyn ymddiswyddiad Matt Hancock. Cafodd Mr Javid, sy’n gyn-Ganghellor ac Ysgrifennydd Cartref, ei benodi 90 munud wedi ymddiswyddiad Mr Hancock nos Sadwrn. Daeth ymddiswyddiad Mr Hancock ar ôl i fideo ymddangos ohono yn cofleidio cyd-weithwraig, yn groes i gyfyngiadau Covid-19 ar y pryd.
‘Poen annioddefol’ o’r coil ddim yn cael ei gymryd o ddifrif
Mae menyw sydd wedi profi “poen annioddefol” wrth gael y coil atal-cenhedlu yn ei chorff wedi dweud nad yw poen menywod yn cael ei gymryd o ddifrif. Roedd Eiri Angharad yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C ar ôl clywed y ddarlledwraig BBC, Naga Munchetty, yn rhannu ei phrofiad trawmatig hithau o gael y coil. Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai meddyginiaeth neu ddulliau eraill o leddfu poen gael eu trafod mewn unrhyw gyswllt clinigol.
Mae cadeirydd y Comisiwn Etholiadol wedi dweud fod modd trefnu refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban heb ganiatâd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Wrth siarad gyda phapur newydd y Telegraph, dywedodd John Pullinger fod y comisiwn yn cael ei ariannu gan yr Alban a Chymru hefyd, ac felly bod modd “cynnal trafodaethau annibynnol” gyda nhw. Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi dweud y byddai yn fodlon bwrw mlaen â refferendwm heb sêl bendith San Steffan, ar ôl sicrhau mandad yn etholiad Holyrood ym mis Mai.
Rhybudd melyn am law trwm yn y de o ddydd Sul
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar gyfer rhannau o dde Cymru ddydd Sul. Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall ardaloedd yn y de-ddwyrain weld glaw trwm rhwng 14:00 dydd Sul a 07:00 fore Llun. Mae’n bosib i’r tywydd achosi amodau gyrru anodd.