Newyddion S4C

Sajid Javid yn dechrau fel Gweinidog Iechyd wedi ymddiswyddiad Matt Hancock

Sky News 27/06/2021
Sajid Javid

Mae’n “anrhydedd” gan Sajid Javid i gymryd yr awenau fel Gweinidog Iechyd San Steffan yn dilyn ymddiswyddiad Matt Hancock.

Cafodd Mr Javid, sy’n gyn-Ganghellor ac Ysgrifennydd Cartref, ei benodi 90 munud wedi ymddiswyddiad Mr Hancock nos Sadwrn.

Daeth ymddiswyddiad Mr Hancock ar ôl i fideo ymddangos ohono yn cofleidio cyd-weithwraig, yn groes i gyfyngiadau Covid-19 ar y pryd.

Cafodd y fideo CCTV o Mr Hancock yn cusanu Gina Coladangelo ei gyhoeddi gan The Sun ddydd Gwener.

Mae Mr Hancock, sy’n briod, wedi ymddiheuro am “adael pobl i lawr”.

Gyda’r digwyddiad yn dyddio nôl i fis Mai, pan roedd cyfyngiadau pellhau cymdeithasol mewn grym, roedd Mr Hancock wedi derbyn beirniadaeth lem gan deuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog,  dywedodd Matt Hancock fod “angen i’r llywodraeth fod yn onest wrth y bobl sydd wedi aberthu cymaint yn ystod pandemig pan rydyn ni yn eu gadael i lawr”.

Fe aeth ymlaen i ymddiheuro unwaith eto am dorri rheolau Covid-19, ac am siom ei deulu a’r rhai sy’n agos ato.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.