Gareth Bale i 'barhau i chwarae dros Gymru' tan ddiwedd ei yrfa
Gareth Bale i 'barhau i chwarae dros Gymru' tan ddiwedd ei yrfa
Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Gareth Bale, wedi dweud y bydd yn parhau i chwarae dros Gymru nes y bydd yn rhoi'r gorau i'r gêm.
Daw hyn ar ôl iddo wrthod ymateb i gwestiynau gan y wasg am ddyfodol ei yrfa gyda Chymru.
Fe gollodd Gymru o 4 - 0 yn erbyn Denmarc yn Amsterdam nos Sadwrn, gan ddod a'u gobeithion ym mhencampwriaeth Euro 2020 i ben.
Roedd 'na ddyfalu ynglŷn â dyfodol Bale wedi'r bencampwriaeth, gyda rhai adroddiadau yn honni y bydd yn ymddeol ar ôl yr ymgyrch.
'Cwestiynau dwl'
Ond wrth siarad gyda S4C ar ôl y gêm nos Sadwrn, dywedodd ei fod eisiau "parhau i chwarae".
"Yn amlwg mae pobol yn gofyn cwestiynau dwl o hyd," meddai.
"Dwi'n caru chwarae i Gymru, ac mi fyddai yn parhau i chwarae i Gymru nes y byddaf yn rhoi'r gorau i chwarae pêl-droed."
Fe soniodd Bale, sydd ar fenthyg gyda Tottenham, am ei rwystredigaeth yn dilyn y golled, gan ddweud nad oedd yn disgwyl i bethau fynd yn drech ar ôl dechreuad cryf.
Wrth siarad gyda BBC Sports, dywedodd cyn rheolwr Cymru, Mark Hughes, ei bod hi'n rhy fuan i Bale fod yn ystyried rhoi gorau i'r gêm.
"Mi fyswn i'n siomedig iawn os bydde fe'n teimlo ei fod wedi rhoi digon," meddai.
"Faint oed ydy e, 31, 32? 31, 32 yw'r 25 newydd yn fy marn i. Roeddwn i'n ystyried rhoi'r gorau o gwmpas yr oedran yna ac fe wnes i barhau i chwarae nes oeddwn i bron yn 38.
"Dwi'n credu os oes gen ti'r brwdfrydedd, a'r awydd i chwarae, mae'n rhaid i ti ddal i fynd."