Newyddion S4C

Cymru ar eu ffordd adref o Euro 2020

26/06/2021
bale

Mae Cymru wedi colli yn erbyn Denmarc yn ystod rownd yr 16 olaf ym mhencampwriaeth Euro 2020. 

Denmarc 4 – 0 Cymru oedd y sgôr ar y chwiban olaf, yn dilyn gêm gythryblus yn Stadiwm Johan Cruyff, Amsterdam.

Gyda chefnogwyr Denmarc yno yn eu miloedd, fe allai Amsterdam fod yn Gopenhagen yn hawdd brynhawn dydd Sadwrn.

Fe ddechreuodd y ddau dîm gyda chwarae da a chwim yn ystod y munudau cyntaf.

Cymru wnaeth hawlio’r munudau cyntaf gydag amddiffyn cryf – gyda chynnig am y gôl gan Bale yn ddigon i roi braw i Ddenmarc. 

Ond fe ddechreuodd y naws newid pan ddaeth cic gornel gyntaf y gêm wedi 19 o funudau, gydag un arall i ddilyn, a’r drydedd yn cael ei hamddiffyn gan Kieffer Moore. 

Joe Rodon oedd y cyntaf i gael ei gosbi gyda cherdyn melyn wedi 26 o funudau; y cyntaf iddo yn ystod y bencampwriaeth.

Mae pethau yn dechrau newid a meddiant Cymru yn gwanio, wrth i’r Daniaid lwyddo i roi pwysau ar Gymru.

Image
Kasper Dolberg
Roedd Kasper Dolberg (dde) ar dân yn Amsterdam. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Ar 27 o funudau, yn sydyn ac yn ddirybudd mae Kasper Dolberg yn rhoi cynnig arall am y trawst, ac yn sgorio gôl gyntaf y gêm.  

Gyda'r dorf yn Amsterdam yn gorfoleddu, fe roddodd y gôl hwb i hyder Denmarc yn ystod y munudau i ddilyn. 

Maen nhw'n rhoi cynnig arall arni yn dilyn cyd-weithio chwim rhwng Mikkel Damsgaard a Kapser Dolberg, ond mae Danny Ward yn amddiffyn tro hyn. 

Gyda Chymru yn llwyddo i symud y bêl lawr y cae am y tro cyntaf ers peth amser, mae Connor Roberts yn cael anaf drwg wrth geisio rhedeg am y bêl. 

Yn ergyd drom i Roberts, a Chymru felly yn chwarae dyn i lawr, cyn i Neco Williams ddod ymlaen ar ôl 40 o funudau. 

Roedd hi'n 15 munud anodd i ochr Rob Page cyn yr hanner amser, gyda gôl Dolberg, anaf Roberts a cherdyn melyn i Kieffer Moore yn trechu’r crysau coch.

Y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf: Denmarc 1 – 0 Cymru

Image
Rob Page
Roedd rhwystreigaeth i'w weld ar wynebau pawb o dîm pêl-droed Cymru nos Sadwrn. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Mewn hanner cyntaf cythryblus, roedd Cymru yn gwybod y byddai'r ail hanner yn brawf.

Mewn camgymeriad costus i Gymru, mae Neco Williams yn rhoi cic i’r bêl i gyfeiriad Dolberg – sy’n saethu am y gôl, a’n sicrhau mantais i Ddenmarc.

Munudau felly ar ôl camu nôl ar y cae, ac roedd Denmarc ar y blaen o ddwy gôl, a Chymru wedi synnu.

Ond maen nhw’n ysu am gôl – ac yn rhoi sawl cynnig arni, ond mae Denmarc yn hyderus a chyfforddus o flaen torf o gefnogwyr.

Ar 69 o funudau ac mae’r sgoriwr, Kasper Dolberg yn cael ei amnewid am Andreas Cornelius.

Mae cyfres o anafiadau yn effeithio tri o chwaraewyr Denmarc, gyda Jens Larsen a Simon Kjaer yn cael eu tynnu oddi ar y cae. 

Cafodd Kieffer Moore a Daniel James eu hamnewid yn ystod dechrau’r deg munud olaf; mae Cymru angen gwyrthiau erbyn hyn.

Mae Denmarc yn parhau i feddiannu yn ystod munudau ola’r gêm – gyda Chymru yn ildio dau gynnig am y trawst gan Martin Braithwaite a Joachim Andersen.

Ond ni fu’n rhaid i’r Daniaid aros yn hir am ragor o lwyddiant,  gyda Chymru yn cadw’r ffordd yn glir i Joakim Maehle, sy’n saethu i gyfeiriad Danny Ward ac yn sicrhau trydedd gôl y noson i Ddenmarc. 

Munud i fynd, ar 89 o funudau, ac mae cerdyn coch hwyr i Harry Wilson yn ergyd – sy’n cael ei ddilyn yn fuan gan gerdyn melyn i Bale am watwar y dyfarnwr. 

Gyda Chymru yn ysu am y chwiban olaf, fe aeth pethau o ddrwg i waeth yn ystod yr amser ychwanegol, wrth i Martin Braithwaite roi dau gynnig am y gôl. 

Mae’r un ddiwethaf yn llwyddo, ac mewn ergyd hynod o siomedig i Gymru, mae Denmarc ar y blaen o 4 i 0. 

Mewn perfformiad didrugaredd, mae Denmarc wedi rhoi crasfa i Gymru yn Amsterdam. 

Mi fyddan nhw’n dathlu heno, a Chymru yn gadael yr Iseldiroedd wedi ymladd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.