Rhybudd melyn am law trwm yn y de o ddydd Sul
27/06/2021
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar gyfer rhannau o dde Cymru ddydd Sul.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall ardaloedd yn y de ddwyrain weld glaw trwm rhwng 14:00 dydd Sul a 07:00 fore Llun.
Fe all y tywydd achosi amodau gyrru anodd, gyda rhai lonydd yn gorfod cau oherwydd llifogydd.
Mae’n bosib i 20 – 40 mm o law ddisgyn yn ystod y dydd, gyda rhai ardaloedd yn gweld hyd at 60 – 80 mm.
Y siroedd a allai gael eu heffeithio yw Blaenau Gwent, Pen y Bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Mynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.