Newyddion S4C

Y Comisiwn Etholiadol yn ‘agored’ i refferendwm annibyniaeth heb sêl bendith Boris Johnson

Nation.Cymru 27/06/2021
Ymgyrchwyr yr Alban

Mae cadeirydd y Comisiwn Etholiadol wedi dweud fod modd trefnu refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban heb ganiatâd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 

Wrth siarad gyda phapur newydd y Telegraph, dywedodd John Pullinger fod y comisiwn yn cael ei ariannu gan yr Alban a Chymru hefyd, ac felly bod modd “cynnal trafodaethau annibynnol” gyda nhw.

Disgrifiodd y berthynas gyda’r Alban a Chymru fel un “uniongyrchol iawn” a’u bod yn “atebol i’r seneddau” yma hefyd.

“Mae ganddyn nhw wahanol agendau, mae ganddyn nhw fandadau newydd ar hyn o bryd, a byddwn ni’n gweithio gyda nhw i weld sut fedrwn ni eu cefnogi gyda’u hagenda seneddol eu hunain.”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi dweud na fyddai yn caniatáu ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi dweud y byddai yn fodlon bwrw mlaen â refferendwm heb sêl bendith San Steffan, ar ôl sicrhau mandad yn etholiad Holyrood ym mis Mai.

Yn ôl Mr Pullinger, fe fyddai cynnal refferendwm heb ganiatad Llywodraeth y DU yn bosib, ond na fyddai ganddi yr un statws a refferendwm sydd wedi derbyn sêl bendith. 

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.