‘Poen annioddefol’ o’r coil ddim yn cael ei gymryd o ddifrif
‘Poen annioddefol’ o’r coil ddim yn cael ei gymryd o ddifrif
Mae menyw sydd wedi profi “poen annioddefol” wrth gael y coil atal-cenhedlu yn ei chorff wedi dweud nad yw poen menywod yn cael ei gymryd o ddifrif.
Roedd Eiri Angharad yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C ar ôl clywed y ddarlledwraig BBC, Naga Munchetty, yn rhannu ei phrofiad trawmatig hithau o gael y coil.
Mae’r coil yn ddyfais sy’n cael ei roi yn y groth i atal beichiogrwydd.
“Swn i yn dweud bod hyn wedi amlygu i bawb bod poen menywod ddim yn cael ei gymryd o ddifri,” meddai Ms Angharad.
“Mae'r profiadau 'ma'n amlwg yn digwydd yn rheolaidd os nad yn ddyddiol yn y gwasanaeth iechyd, lle mae menywod yn cael eu rhoi mewn poen annioddefol a ddim yn cael cynnig poen laddwyr.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai meddyginiaeth neu ddulliau eraill o leddfu poen gael eu trafod mewn unrhyw gyswllt clinigol.
Ond yn ôl Ms Angharad, fe ddylai fod wedi cael ryw fath o rybudd am natur y driniaeth cyn dod fewn i’r clinig.
‘Dim rhybudd’
“Doedd dim rhybudd bod e'n mynd i frifo, na bod angen cymryd painkillers na dim byd fel na. So es i mewn i'r peth falle bach yn naive.
“O'n i'n gweiddi, o'n i'n embarrassed bo fi yn gweiddi.
“Y ffaith bod nhw heb ddweud y galle fe frifo odd yn neud i fi feddwl mai fi oedd yn bod yn ddramatig neu rywbeth.
“O'n i'n teimlo'n faint iawn a oedd poeth yn ddu ac o ni fethu gweld a wnaethon nhw jyst gadael fi allan o'r ystafell a jyst 'di gerdded adre wedyn.
“O'n i nawr mewn poen, tair wythnos allan o bedair yn y pendraw ar ôl ryw wyth mis nes i gyrraedd ryw bwynt lle o'n i mewn cymaint o boen o'n i bron a ffonio am ambiwlans achos o'n i'n meddwl bod 'na rhywbeth yn digwydd."
Fe soniodd y ddarlledwraig Naga Munchetty am ei phrofiad anodd o dderbyn y coil yn fyw ar BBC 5 Live.
Eglurodd ei bod hithau hefyd wedi dioddef poen “annioddefol”, wedi llewygu dwywaith, a heb gael cynnig poen laddwyr.
Erbyn hyn, mae dros 20,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am wella’r dulliau o leddfu poen wrth roi a thynnu’r coil.
'Pwysig siarad hefo'ch meddyg'
Dyweodd Dr. Mared Dafydd, meddyg teulu yng Nghonwy: "Mae codi ymwybyddiaeth yn anhygoel o bwysig. Ond, 'da ni ddim yn clywed am y miloedd a miloedd o ferched sydd yn cael profiadau iawn hefyd.
"Ddim bod e byth yn brofiad pleserus, ond dyle fe ddim bod yn brofiad amhleserus chwaith.
"Mae'n bwysig i chi siarad efo'ch meddyg teulu neu eich nyrs yn y practis a jyst esbonio be' 'di'r pryder sydd gennych chi."
Erbyn hyn, mae dros 20,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am wella’r dulliau o leddfu poen wrth roi a thynnu’r coil.