Newyddion S4C

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried prosiectau i adeiladu ffyrdd yn y dyfodol, medd Ken Skates

24/03/2024

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried prosiectau i adeiladu ffyrdd yn y dyfodol, medd Ken Skates

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates wedi dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried adeiladu ffyrdd newydd yn y dyfodol.

Yn 2023, fe wnaeth y Llywodraeth gyhoeddi ei fod yn gohirio prosiectau i adeiladau ffyrdd newydd, wrth gyhoeddi cynllun trafnidiaeth cenedlaethol newydd.

Roedd hynny er mwyn gosod gofynion newydd ar gynlluniau ffyrdd, er mwyn atal rhagor o geir defnyddio’r ffyrdd ac atal unrhyw gynnydd mewn allyriadau carbon.

Roedd cynlluniau i godi trydedd bont ar draws y Fenai a’r Llwybr Coch ar yr A494 yn Sir y Fflint ymhlith 55 o brosiectau adeiladu ffyrdd a gafodd eu gohirio yn dilyn adolygiad gan y cyn Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.

Ond wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales fore Sul, dywedodd Mr Skates, a gafodd ei benodi i olynu Mr Waters wythnos yma gan y Prif Weinidog Vaughan Gething, y byddai’r Llywodraeth yn ystyried cynlluniau sydd yn “adlewyrchu realiti’r argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu”.

Dywedodd: “Rydw i yn dymuno gweld Cymru ar flaen y gad o’r rhan dyluniad a rhoi prosiectau newydd ar waith. Nid ydym wedi rhoi’r gorau i adeiladu ffyrdd, ond mae’n rhaid i ni gael gofynion ar gyfer cynlluniau newydd sydd yn dweud na fydden nhw’n cael eu hadeiladu os bydden nhw’n arwain at gapasiti uwch.

“Mae hynny wedi achosi anawsterau o’r rhan ystyried cynlluniau, a sut maen nhw’n cael eu dehongli.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod yn adlewyrchu realiti’r argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu”

Ond pan ofynnwyd a fyddai’r Llywodraeth yn ail-ystyried ffordd osgoi’r M4 yng Nghasnewydd, dywedodd Mr Skates fod “y cyfle wedi mynd a dod”

'Amser wedi ei golli'

Mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn croesawu’r ffaith y gallai trydedd bont dros y Fenai gael ei ail-hystyried, gan fynegi “rhwystredigaeth” dros ei amseru.

“Y tristwch fan hyn yw bod y penderfyniad cywir wedi cael ei wneud rhai blynyddoedd yn ôl i godi strwythur newydd er mwyn cryfhau gwytnwch ar draws y Fenai. Mi fydda’r bont honno wrthi’n cael ei hadeiladu erbyn hyn. 

"Mae 'na gymaint o amser wedi cael ei golli. Dwi wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i newid meddwl a dwi’n falch o glywed Ken Skates yn dweud hyn rŵan ond mae’r amser sydd wedi cael ei golli yn rhywbeth sy’n rhwystredig iawn iawn i ni ar Ynys Môn.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, David TC Davies, y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried rhoi cymorth i ariannu prosiect i adeiladu ffordd osgoi ar yr M4.

“Os maen nhw eisiau ail-ymweld â’r penderfyniad, wrth gwrs dwi’n siŵr bydd y trysorlys yn barod i siarad gyda nhw a fyswn i’n barod i helpu gyda rhyw fath o drafodaeth. Dwi’n siŵr ar ryw bwynt yn y dyfodol bydd rhaid adeiladu ffordd newydd ar yr M4. 

"Ni ddim yn gallu just gweld cobgestion a traffic jams pob bore. 

"Mae’r M4 yn bwysig i holl economi de Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.