Newyddion S4C

Dim pont newydd i gerbydau dros y Fenai medd Llywodraeth Cymru

14/02/2023

Dim pont newydd i gerbydau dros y Fenai medd Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd trydedd bont ar gyfer cerbydau yn cael ei hadeiladu dros y Fenai.

Daw’r penderfyniad yn dilyn adolygiad o dros 50 o ffyrdd oedd dan ystyriaeth, gyda'r llywodraeth yn cyhoeddi ddydd Mawrth y bydd bob cynllun sylweddol i adeiladu ffyrdd yn dod i ben.

Ni fydd cynllun dadleuol y Llwybr Coch ar yr A494 yn Sir y Fflint ddim yn mynd yn ei flaen bellach o ganlyniad i'r cyhoeddiad.

Wrth gyhoeddi canlyniadau adolygiad i 55 o ffyrdd ar hyd a lled y wlad, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, na fyddai'r llywodraeth yn gwneud tro pedol ar gynllun i adeiladu ffordd osgoi Llanbedr yn ne Gwynedd chwaith.

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fyddai’r cynllun hwnnw'n mynd yn ei flaen, er mawr siom i nifer yn lleol.

Fe gafodd Pont y Borth ei chau ym mis Hydref 2021 am bedwar mis gan olygu mai dim ond un ffordd oedd i deithio rhwng Ynys Môn a’r tir mawr am gyfnod.

Er nad oes bwriad i adeiladu pont newydd i gerbydau dros y Fenai, bwriad y llywodraeth yw edrych ar ystod o ffyrdd er mwyn "datblygu opsiynau i sicrhau gwydnwch croesi'r Fenai mewn ffordd sy'n cefnogi newid moddol sy'n cyd-fynd â phrofion adeiladu ffyrdd yn y dyfodol”.

"Rydym wedi gofyn i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wneud argymhellion ynghylch y ffordd orau o gyflawni hyn,” meddai.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, a fydd yn "pennu’r prosiectau sy’n mynd rhagddynt yn ogystal â pholisïau newydd a fydd yn helpu i gyflawni'r strategaeth gyffredinol."

Canfyddiadau panel

Ym mis Mehefin 2021 cyhoeddwyd y byddai prosiectau ffyrdd newydd yn cael eu gohirio ac y byddai panel Adolygu Ffyrdd yn cael ei greu.

Cafodd y panel annibynnol o arbenigwyr y dasg o adolygu cynlluniau ffyrdd a oedd yn cael eu datblygu ac nad oeddent o bosibl bellach yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru - yn enwedig o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Fe wnaeth y panel, a gadeiriwyd gan Dr Lynn Sloman MBE, adolygu 55 o brosiectau ffyrdd gan gyflwyno'r canfyddiadau i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2022.

Roedd yr adolygiad hefyd yn edrych ar welliannau i'r A55, A494 ac A458 yn Sir y Fflint.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth yn dangos prosiectau a fydd yn datblygu dros y pum mlynedd nesaf "a sut fyddwn yn adeiladu ffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol."

‘Buddsoddi’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters na fydd Cymru yn cyrraedd Sero Net “os na fyddwn ni’n stopio gwneud yr un peth drosodd a throsodd”.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, meddai: “Gadewch i mi fod yn hollol glir o’r cychwyn, byddwn ni’n dal i fuddsoddi mewn ffyrdd. Yn wir, rydyn ni wrthi’n adeiladu ffyrdd newydd ar hyn o bryd!

“Ond rydyn ni codi'r bar o ran penderfynu mai ffyrdd newydd yw’r ateb cywir i’r problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.

“Rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn, gan gynnwys buddsoddi mewn prosiectau rheilffyrdd, bysiau, cerdded a seiclo.

“Wrth gwrs, mae gwneud hynny mewn cyfnod o gyni yn heriol iawn. Dydyn ni ddim yn cael ein cyfran o fuddsoddiad HS2. Ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn gwthio llawer o wasanaethau bysiau dros ymyl y dibyn, yn ogystal â thorri ein cyllidebau buddsoddi cyfalaf.

“Hyd yn oed pe bydden ni am fwrw ymlaen â'r holl gynlluniau ffyrdd sydd ar y gweill, dyw’r arian ddim gyda ni i wneud hynny. Bydd ein cyllideb gyfalaf 8% yn is y flwyddyn nesaf o ganlyniad i gyllideb ddiwethaf Llywodraeth y DU.”

‘Tagfeydd’

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi wedi gosod pedwar prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd newydd.

Fe fyddan nhw, o hyn ymlaen, ond yn ystyried buddsoddiad ffyrdd yn y dyfodol ar gyfer prosiectau sy'n:

•            Lleihau allyriadau carbon a chefnogi newid o ran trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio

•            Gwella diogelwch drwy newid ar raddfa fach

•            Helpu Llywodraeth Cymru i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd

•            Darparu cysylltiadau â swyddi ac ardaloedd o weithgarwch economaidd mewn ffordd sy'n gwneud y defnydd mwyaf o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio

Aeth Lee Waters yn ei flaen: “Dyw ein dull gweithredu dros y 70 mlynedd diwethaf ddim yn gweithio.

“Fel y mae’r adolygiad yn ei nodi, mae’r ffordd osgoi a fynnwyd i leddfu tagfeydd yn aml yn creu traffig ychwanegol, sydd yn ei dro yn dod â galwadau pellach am lonydd ychwanegol, cyffyrdd ehangach a mwy o ffyrdd.

“Rownd a rownd â ni, yn allyrru mwy a mwy o garbon yn y broses, a wnawn ni ddim cyrraedd Sero Net nes inni stopio gwneud yr un peth drosodd a throsodd.”

'Tymor hir'

Wrth ymateb i adolygiad ffyrdd y llywodraeth, dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fod y cyhoeddiad i'w groesawu.

"Am yn rhy hir rydym wedi gwario miliynau ar ffyrdd newydd heb unrhyw welliannau gwirioneddol mewn diogelwch ffyrdd na thagfeydd ble mae ei angen fwyaf.

"Nawr mae angen i ni gael cynllun tymor hir i fuddsoddi mewn ffyrdd gwell, trafnidiaeth gyhoeddus a thaclo llygredd aer yn ein cymunedau."

Ond mae Ceidwadwyr Cymru wedi beirniadu y cyhoeddiad, gan ddweud nad ydi Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i hybu dewisiadau amgen i yrru ceir.

"Mae'r cynllun yn gadael pobol mewn trallod ac ebargofiant," meddai llefaryddd y blaid ar drafnidiaeth, Natasha Asghar.

"Mae angen ffyrdd o'r safon uchaf er mwyn cynnal gwasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus o'r safon uchaf hefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.