Llythyr gan aelodau Llafur Cymru yn cyhuddo Llywodraeth y DU o 'ymosod ar ddatganoli'

Keir Starmer PA

Mae aelodau o’r Blaid Lafur yn Senedd Cymru wedi ysgrifennu llythyr at Lywodraeth y DU yn galw arnynt i “weithredu" ac i "roi tegwch” i Gymru, gan gyhuddo Syr Keir Starmer o "ymosod" ar ddatganoli.

Mae 11 AS wedi arwyddo'r llythyr, sy'n cyfeirio at gymorth ariannol a roddwyd i awdurdodau lleol Cymru fel rhan o brosiect ‘Balchder Lle’ Llywodraeth y DU.

Mae’r arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y prosiect wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau fel atgyweirio gorsafoedd bws, ail-agor toiledau cyhoeddus mewn parciau a darparu biniau, sydd oll mewn meysydd sydd wedi eu datganoli ac yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio Deddf Marchnad Fewnol y DU i drosglwyddo'r arian yn uniongyrchol i awdurdodau lleol Cymru drwy law Whitehall, yn hytrach na thrwy'r llywodraeth ym Mae Caerdydd.

Nid yw'r un o'r 11 gwleidydd yn aelod o gabinet Llywodraeth Cymru, gyda phob un yn dadlau fod Llywodraeth y DU wedi gweithredu mewn modd “ansensitif” sydd wedi achosi “dicter cyfansoddiadol.” 

'Ymosod ar ddatganoli'

Mae'r gwleidyddion yn dadlau “petai hyn yn cael ei wneud gan Lywodraeth Dorïaidd, yna bydden ni’n galw am adolygiad barnwrol.”

Fe gyfeiriodd aelodau at achosion tebyg lle oedd Llywodraeth Cymru wedi herio Llywodraeth [Geidwadol] diwethaf y DU gydag adolygiadau yn y gorffennol, os oeddynt o'r farn fod penderfyniad neu weithredoedd Llywodraeth y DU yn “ymosodiad” ar ddatganoli.

Fe aeth y llythyr ymlaen: “Mae defnyddio’r Ddeddf Masnach Fewnol yn y ffordd yma... wedi diystyru Llywodraeth Cymru sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd mewn meysydd polisi sydd o fewn eu cyfrifoldebau” gan ychwanegu fod “pryder cynyddol am fethiant i symud ymlaen gyda chamau i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru.”

Ystyried datganoli mwy o feysydd

Fe ddaw'r llythyr hefyd ar ôl galwadau gan wleidyddion i ddiwygio’r fformiwla Barrnett sydd yn pennu faint o arian sydd ar gael i Gymru, ynghyd â galwadau i ystyried datganoli isadeiledd y rheilffyrdd, yr Heddlu, gwasanaethau cyfiawnder troseddol ac ystâd y Goron.

“Mae Cymru angen, ac yn haeddu cael ei thrin yn deg fel rhan o’r DU, ac mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i weithredu a rhoi’r tegwch yma,” meddai'r llythyr.

Yr 11 aelod sydd wedi llofnodi’r llythyr yw: Mick Antoniw, Hannah Blythyn, Alun Davies, John Griffiths, Lesley Griffiths, Julie Morgan, Jenny Rathbone, Rhianon Passmore, Carolyn Thomas, Mike Hedges a Lee Waters.

'Ymladd mewnol'

Mae Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru wedi dweud fod y llythyr yn “eithriadol” ac yn "dangos y cyfan am anrhefn y blaid", gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio bod ag "unrhyw ddylanwad dros eu cyd-weithwyr yn Llundain."

Tra bod y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cyhuddo'r blaid Lafur o fod “mewn anrhefn lwyr.”

Mewn datganiad, fe ddywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds “nad yw'r blaid Lafur wedi parchu Cymru wrth gynllunio ar gyfer Cymru o Whitehall.”

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: “Dywedwyd wrth Gymru y byddai cael llywodraethau Llafur ar bob pen o’r M4 yn cyflawni dros ein cymunedau, ond y cyfan rydyn ni wedi’i weld ers yr etholiad diwethaf yw ymladd mewnol."

'Rhoi pobl leol yn y sedd flaen'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth Cymru i gyflawni newid gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru mewn partneriaeth.

"Bydd darparu cyllid wedi'i dargedu'n dda yn helpu i gyflawni hyn - gyda chynllun 'Balchder Lle' yn rhoi pobl leol yn y sedd flaen i benderfynu ar eu blaenoriaethau, boed hynny ar eu stryd fawr leol, busnesau lleol, neu fannau cymunedol, acc mae'n darparu buddsoddiad ychwanegol ar ben y cyllid rydym eisoes wedi'i roi i Gymru."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.