Dyn yn cyfaddef methiannau diogelwch yn achos marwolaeth saer coed 18 oed o Fôn
Mae cyfarwyddwr cwmni wedi cael gwybod bod “pob opsiwn dedfrydu” yn bosib wedi iddo ef a’i gwmni gyfaddef methiannau diogelwch yn dilyn marwolaeth saer coed 18 oed o Fôn.
Bu farw Chloe Bidwell o Fae Trearddur ym mis Rhagfyr 2023 wedi i fwrdd plastr ddisgyn arni hi mewn tŷ yr oedd hi’n gweithio ynddo yng Nghoed Delyn, Bangor.
Yn dilyn agoriad cwest ar ôl ei marwolaeth, fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gynnal ymchwiliad.
Roedd Chloe Bidwell wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei gwaith tra'n astudio yng Ngholeg Menai yn y ddinas.
Roedd hi newydd ddechrau chwarae i dîm merched rygbi hŷn MônStars cyn ei marwolaeth, ac roedd hefyd wedi chwarae i Rygbi Gogledd Cymru.
Mewn gwrandawiad llys yn Llandudno ddydd Mercher, fe wnaeth David Horrocks, 45 oed, o'r Felinheli bledio’n euog i fethu â chyflawni dyletswydd iechyd a diogelwch.
Fe wnaeth cwmni Varcity Living o Fangor bledio’n euog i fethu â sicrhau iechyd a diogelwch gweithwyr, gan gynnwys Chloe Bidwell ac unigolion nad oedd yn gyflogedig, ar 20 Rhagfyr 2023.
Wrth orchymyn adroddiad cyn dedfrydu yn achos Horrocks, fe ddywedodd y barnwr rhanbarthol Gwyn Jones: “Mae pob opsiwn dedfrydu, gan gynnwys mynd i’r ddalfa ar unwaith, dal yn bosibl.”
Fe gafodd y ddedfryd ei gohirio tan fis Ebrill 2026. Ni chafodd achosion yr erlyniad na’r amddiffyn eu hamlinellu.
Clywodd y cwest ychydig wedi ei marwolaeth fod Heddlu’r Gogledd wedi cael adroddiad fod menyw, nad oedd yn ymwybodol nag yn anadlu, y tu mewn i gyntedd tŷ gyda bwrdd plastr yn ymddangos fel ei fod wedi disgyn ar ei chefn.