'Torcalonnus': Cyn chwaraewr Cymru yn gadael swydd hyfforddi oherwydd 'pryderon meddygol'
Mae cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru wedi gadael ei swydd fel hyfforddwr Clwb Rygbi Abertawe oherwydd ‘rhesymau meddygol’.
Fe wnaeth Jonathan Thomas ymddeol o’r gamp yn 2015 ar ôl derbyn diagnosis o epilepsi, a hynny o ganlyniad i ergydion yr oedd wedi ei ddioddef i’w ben.
Roedd Thomas yn chwarae yn safle'r rheng ôl, ac fe enillodd 67 o gapiau dros Gymru.
Ers ymddeol, mae wedi cael gyrfa lwyddiannus fel hyfforddwr, gyda chlybiau Caerwrangon a Bryste, yn ogystal â chyfnod gyda thîm hyfforddi Cymru dan lywyddiaeth Warren Gatland.
Cafodd y gŵr 42 oed ei benodi’n hyfforddwr gyda Chlwb Rygbi Abertawe cyn dechrau tymor newydd y Super Rygbi Cymru.
Ond mewn datganiad ddydd Mercher, fe ddywedodd ei fod yn gadael y rôl ychydig fisoedd yn ddiweddarach yn dilyn “pryderon meddygol parhaus”.
Mae Thomas yn un o bron i 400 o chwaraewyr sydd yn gobeithio dwyn achos yn erbyn y cyrff sy’n rheoli’r gamp dros yr anafiadau achoswyd gan gyfergyd (concussion).
''Symud ymlaen'
Wrth gyhoeddi ei fod yn gadael ei rôl fel hyfforddwr Abertawe, dywedodd Jonathan Thomas: “Ro’n i’n gyffrous iawn i gymryd yr her yn yr haf ac rydw i’n hynod falch o’r cynnydd mae’r tîm wedi ei wneud.
"Mae gennym garfan dda sydd eisiau gwella a herio, ac mae’r holl arwyddion yn dangos ein bod ni’n teithio i’r cyfeiriad cywir.
"Ro’n i’n caru fy swydd ac mae hynny’n gwneud o’n anoddach fyth i wneud y penderfyniad yma, ond dyma’r peth iawn i mi yn bersonol.
Inline Tweet: https://twitter.com/SwanseaRFC/status/1996187702392418680?s=20
“Bydd llawer o bobl yn gwybod fy hanes a pham nes i ymddeol o chwarae. Mae problemau hir dymor yn gysylltiedig â thrawma i’m mhen wedi achosi pryderon i mi’n ddiweddar ac mae wedi bod yn amhosib i mi roi popeth sydd ei angen ar gyfer y rôl.
"Er ei fod yn dorcalonnus i mi gamu i ffwrdd, mae’n rhaid i mi ffocysu ar fy iechyd personol yn y tymor byr a chanolbwyntio ar gael gwell dealltwriaeth o’r problemau, a’r gefnogaeth iawn wrth symud ymlaen. Fy unig flaenoriaeth nawr yw fy hunan a fy nheulu."
Dywedodd ei fod yn “hynod ddiolchgar” am y “gefnogaeth anhygoel” y mae wedi derbyn gan y clwb a’r Rheolwr Cyfarwyddwr, Keith Colclough, dros y misoedd diwethaf.
Fe ychwanegodd Keith Colclough, ar ran Clwb Rygbi Abertawe: “Mae JT wedi bod yn arbennig ers ymuno ac wedi gosod sail gadarn, sydd wedi’i adlewyrchu gan y gwellhad mewn perfformiadau a chanlyniadau yn y SRC eleni.
“Er hynny, mae’r hyn sydd yn digwydd ar y cae yn dod yn ail i iechyd personol, ac er ein bod yn drist y bod yn rhaid gwneud y cyhoeddiad yma, rydym yn deall ac yn cytuno gyda Jonathan mai dyma’r penderfyniad cywir.
“Ei iechyd yw’r peth pwysicaf ac mae angen i JT ganolbwyntio ar wella. Rydym yn rhannu ein dymuniadau gorau gydag ef a’i deulu, ac yn edrych ymlaen i'w groesawu yn ôl i’r clwb yn y dyfodol.”
Llun: Asiantaeth Huw Evans