Rhai hyfforddwyr cerddorol 'wedi eu gwylltio' gan newid i gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd
Mae rhai o hyfforddwyr cerddorol Cymru wedi eu gwylltio gan newid i gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd.
Gyda rhai Eisteddfodau Rhanbarth i’w cynnal ychydig wythnosau ar ôl Nadolig, mae nifer o offerynwyr ifanc yn dweud eu bod eisioes wedi dewis a dechrau dysgu eu darnau ar gyfer Eisteddfod Ynys Môn fis Mai.
Ond mae newid rheolau sy'n cyfyngu ar hyd y darnau’n wedi codi gwrychyn.
Dywed Urdd Gobaith Cymru eu bod wedi ceisio rhoi rhybudd i gystadleuwyr, ond yn ôl Dylan Williams sy'n athro cerdd, ac yn dweud fod 150 o’i ddisgyblion wedi cystadlu mewn eisteddfodau’r Urdd eleni, mae hi nawr yn bosib na fydd nifer o'i ddisgyblion yn medru cystadlu'r flwyddyn nesaf.
"Y plant ydy'r pobl pwysicaf wrth gwrs a'r pobl sy'n dysgu nhw a'r gwaith, yr oriau o waith ma' nhw'n rhoid i mewn. Heini 'di'r pobl pwysig a ma' isie cofio hynna," meddai.
"Mae'n anodd iawn deud 'wan achos os dwi methu 'neud i hyn i gweithio, na, fyddai ddim yn mynd i gystadlu. Ma isie 'neud o'n iawn wrth gwrs ac os nad ydan ni'n gallu gwneud o'n iawn yna fyddai'm yn 'neud o o gwbl wrth gwrs."
Fel rhan o’r newid mae rhai cystadleuaethau - er enghraifft Ensemble Lleisiol Blwyddyn 10 a dan 19 oed - oedd yn caniatáu perfformiad pum munud o hyd bellach wedi ei gwtogi i dri munud.
Mae newidiadau eraill yn cynnwys cwtogi perfformiad Unawd Pres Bl.7, 8 a 9 o bum munud i bedwar munud ac Unawd Llinynnol Bl. 10 a dan 19 oed o saith munud i chwe munud.
Yn ôl un o ddisgyblion Dylan Williams, mae amser ymarfer eisioes wedi ei “wastraffu”.
"Unrhyw newid, 'sa fo'n gallu digwydd ar y llwyfan neu oddi ar y llwyfan, ma'n gallu effeithio yn fawr ar perfformiad chi a'r cystadlu a ma' newid fel hyn sy'n digwydd wan, ma'n golygu lot o newid i'r gwaith ymarfer." meddai Gwern, sy'n chwarae'r utgorn.
Athro cerdd arall sy’n rhwystredig gydag amseru’r newid ydi Jane Parry.
"Mae'n rhy hwyr yn y diwrnod i newid rhaglenni plant ar y stage yma. Mae'n Nadolig, mae nhw'n paratoi yn y r ysgolion ar gyfer sioeau 'dolig ac wir 'ella 6 neu 7 gwers tan mae'r steddfod sir yng Nghylch Eryri, sef cylch andros o gryf lle ma' 'na lot yn cystadlu a ma' pawb isio bod ar eu gorau ar gyfer hwn," meddai.
Mewn datganiad dywedodd Urdd Gobaith Cymru bod “Eisteddfod yr Urdd wedi tyfu a datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, ac oherwydd hynny, mae’r costau wedi cynyddu hefyd.
“Ers pedair mlynedd, mae’r Urdd wedi ymrwymo i roi llwyfan i bob aelod sy’n cyrraedd y Genedlaethol, a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael cyfle perfformio o’r safon uchaf.”
“Er mwyn gallu parhau i sicrhau Llwyfan i Bawb, a bod yr holl berfformiadau ar gael i’w gwylio’n llawn ar bob diwrnod o’r ŵyl, rydym wedi gorfod gwneud addasiadau i hydoedd rhai cystadlaethau hunan-ddewisiad.”
“Rydym yn cydnabod ac yn deall bod y newid hwn i’r Rhestr Testunau o bosib yn medru achosi rhwystredigaeth, ond rydym wedi gwneud popeth posib i roi rhybudd i’n cystadleuwyr cyn eu perfformiad cyntaf, wrth i’r system gofrestru fynd yn fyw.”
“Os ydy’r cystadleuydd dros amser mewn Eisteddfod Gylch / Rhanbarth yna nodir hyn ar ei feirniadaeth a cheir gwybod ar lafar gan drefnydd yr Eisteddfod honno. Bydd yn rhaid addasu’r perfformiad erbyn yr Eisteddfod nesaf.
“Erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ni chaniateir i unrhyw berfformiad fod dros yr amser a nodir ac ni fydd modd derbyn gwobr os yw hyn yn digwydd. Felly bydd cyfle i addasu rhwng yr Eisteddfod Gylch/Rhanbarth a’r Genedlaethol os oes angen.”