Cwest yn clywed fod heddwas o'r de wedi boddi ar noson allan ym Mryste
Mae cwest wedi clywed fod heddwas o dde Cymru wedi boddi mewn harbwr ar ôl mynd ar noson allan gyda ffrindiau ym Mryste.
Roedd PC Rehaan Akhtar, 28 oed, wedi bod yn yfed gyda ffrindiau cyn iddo fynd ar goll yn oriau mân y bore ar 23 Tachwedd.
Clywodd cwest i'w farwolaeth ddydd Mercher nad oedd wedi dychwelyd i'w hostel yn y ddinas ar y noson.
Cafwyd hyd i'w gorff yn yr harbwr y bore canlynol.
Fe agorodd Debbie Rookes, dirprwy grwner Avon, gwest i farwolaeth yr heddwas cyn ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.
Clywodd y cwest fod marwolaeth PC Akhtar wedi ei chofnodi am 10.39 gan PC Adam Rowland yn ardal Narrow Quay.
Cafodd ei adnabod yn ffurfiol gan ei fam, Fozia Akhtar.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal gyda chanfyddiadau cychwynnol ei farwolaeth yn cael ei gofnodi fel achos o foddi.
Dywedodd Mrs Rookes y dylid cyflwyno pob datganiad a thystiolaeth i lys y crwner erbyn 5 Ionawr.
“Byddaf yn rhestru’r cwest hwn dros dro ar gyfer gwrandawiad ar Chwefror 24 2026 yma yn Llys Crwner Avon,” ychwanegodd.
“Gall y dyddiad hwnnw newid ar ôl derbyn tystiolaeth bellach. Mae’r cwest hwn bellach wedi’i ohirio.”
Roedd Mr Akhtar, o Lanelli, yn gwnstabl gyda Heddlu De Cymru.
Ymunodd â’r heddlu gyntaf fel swyddog cymorth cymunedol yr heddlu. Roedd yn swyddog cynorthwyol yng Nghaerdydd o fis Hydref 2021 a daeth yn gwnstabl Heddlu'r De yn Abertawe ym mis Medi 2023.
