Cabinet Cyngor Powys i ystyried cau Ysgol Gynradd Llandinam

Ysgol Llandinam

Fe fydd Cabinet Cyngor Powys yn ystyried argymhelliad i gau ysgol gynradd yn y sir yn ddiweddarach yn y mis.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cau Ysgol Gynradd Llandinam, gydag ymgynghoriad chwe wythnos wedi ei gynnal ar y cynnig rhwng mis Medi a mis Hydref. 

Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad hwnnw yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar ddydd Mawrth 16 Rhagfyr.

Fe fydd cais i'r Cabinet hefyd barhau â'r broses i gau'r ysgol gynradd, sydd â 35 o ddisgyblion ar hyn o bryd.

Os rhoddir caniatâd, bydd y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol. Yna byddai'n ofynnol iddo ystyried adroddiad arall i gloi'r broses.

Trosglwyddo disgyblion

Pe bai'r ysgol yn cau, byddai angen i ddisgyblion drosglwyddo i ysgolion eraill o fewn y dalgylch ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Powys sy'n Dysgu: “Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad diweddar ar y cynnig hwn. Ystyriwyd eich barn yn ofalus fel rhan o'r broses hon.

"Yr argymhelliad gerbron y Cabinet yw symud ymlaen trwy gyhoeddi hysbysiad statudol i gynnig cau Ysgol Gynradd Llandinam yn ffurfiol.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau’r dechrau gorau posibl i bob dysgwr, ac rydym yn credu y bydd ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn helpu i gyflawni hynny. Mae hyn yn golygu mynd i’r afael â heriau fel y gyfran uchel o ysgolion bach, niferoedd disgyblion sy’n gostwng, a lleoedd gwag sylweddol ar draws y sir."

Costau

Ychwanegodd bod ffigurau yn dangos y bydd Ysgol Gynradd Llandinam yn parhau i fod yn un o'r ysgolion lleiaf ym Mhowys i'r dyfodol. 

Ar hyn o bryd mae ganddi un o'r costau uchaf fesul disgybl yn y sir – £7,424 o'i gymharu â chyfartaledd Powys o £5,214.

“Mae niferoedd bach o ddisgyblion yn golygu bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau cyfnod allweddol cyfan, sy'n cyfyngu ar gyfleoedd i ddysgu ochr yn ochr â chyfoedion o oedran a gallu tebyg. 

"Byddai symud ymlaen â'r cynnig hwn yn caniatáu i ddisgyblion fynychu ysgol fwy gyda chyfleoedd addysgol ac allgyrsiol ehangach," meddai.

“Nid yw’r argymhelliad hwn wedi’i wneud yn ysgafn, ond credwn ei bod yn angenrheidiol mynd i’r afael â niferoedd isel a lleihau capasiti dros ben yn ein hysgolion cynradd.”

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.