Newyddion S4C

Mam a wnaeth oroesi ffrwydrad nwy yn ei thŷ yn ennill gwobr prentisiaeth

23/03/2024
Jessica Williams a'i theulu

Mae mam a wnaeth oroesi ffrwydrad nwy yn ei thŷ ym Mlaendulais wedi ennill gwobr prentisiaeth ar gyfer ei gwaith fel arweinydd meithrinfa. 

Cafodd Jessica Williams a’i meibion, Elliot a Ruben oedd yn ddwy a phump oed ar y pryd, eu claddu dan dunelli o rwbel wedi’r ffrwydrad yng Nghastell-nedd Port Talbot ar 23 Mehefin 2020.

Treuliodd y fam 14 wythnos yn yr ysbyty, gan gynnwys mis mewn coma. Roedd y teulu i gyd wedi dioddef anafiadau llosgi difrifol, ac roedd rhaid i’r plant dreulio tair wythnos ar uned arbenigol yn ysbyty ym Mryste. 

Ond bron i bedair blynedd yn ddiweddarach, mae’r fam wedi dweud ei bod yn ddiolchgar am ei phrofiad ar ei chwrs prentisiaeth a wnaeth helpu iddi “ffynnu” wedi’r digwyddiad “trawmatig” a newidiodd ei bywyd. 

Fel arweinydd “ysbrydoledig” meithrinfa Sêr Bach y Cwm yn Ystradgynlais, fe gafodd Jessica Williams ei henwi’n Brentis Uwch y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 nos Wener. 

"Rydw i wedi mynd o un pegwn i'r llall, o fod yn ddifrifol wael ac yn ymladd am fy mywyd, i ddod yn arweinydd meithrinfa lwyddiannus," meddai Jessica.

“Mae'n anhygoel, ond mae wedi bod yn daith anodd."

'Dyfalbarhau'

Fe gychwynnodd Ms Williams, 34 oed, ar y cwrs prentisiaeth mewn arwain a dysgu plant cyn i’r ffrwydrad ddigwydd yn ei thŷ. 

Roedd rhaid iddi gwblhau’r cwrs tra oedd hi’n dal i wella, ac roedd hynny’n cynnwys dysgu sut i gerdded eto.

Wrth siarad â Newyddion S4C ym mis Ionawr, esboniodd Ms Williams, 34 oed, sut y gwnaeth hi “dyfalbarhau” oherwydd ei chariad tuag at ei swydd.

Mae’r fam eisoes wedi dweud ei bod hi a’i theulu yn awyddus i “symud ymlaen” gyda’u bywydau.

Ac fel rhan o’r proses hynny, fe symudodd y teulu yn ôl i mewn i’w hen dy ddechrau’r flwyddyn, flynyddoedd wedi iddo ffrwydro.

Roedd “lot o emosiynau” ynghlwm â’r penderfyniad ond gyda chefnogaeth ag ymdrech i godi arian gan eu cymuned leol, roedd y teulu yn barod i ddychwelyd i’w cartref a pharhau i fyw eu bywydau. 

Fe gafodd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 eu cynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd nos Wener ac fe gafodd ei drefnu gan Lywodraeth Cymru a'u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a'r prif noddwr EAL.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.