'Atgofion erchyll': Teulu yn dychwelyd i'w tŷ flynyddoedd ar ôl iddo ffrwydro
“’Dy'n ni wedi ail-adeiladu’r tŷ yn wahanol i be’ oedd e, ond mae’r hen atgofion erchyll dal ‘na hefyd.”
Dyma eiriau menyw o Flaendulais wedi iddi a’i theulu ifanc symud yn ôl i’w hen gartref flynyddoedd wedi iddo ffrwydro.
Cafodd Jessica Williams a’i meibion, Elliot a Ruben oedd yn ddwy a phump oed ar y pryd, eu claddu dan dunelli o rwbel wedi’r ffrwydrad yng Nghastell-nedd Port Talbot ar 23 Mehefin 2020.
Treuliodd y fam 14 wythnos yn yr ysbyty, gan gynnwys mis mewn coma. Roedd y teulu i gyd wedi dioddef anafiadau llosgi difrifol, ac roedd rhaid i’r plant dreulio tair wythnos ar uned arbenigol yn ysbyty ym Mryste.
Tair a hanner blynedd yn ddiweddarach, mae’r teulu wedi symud yn ôl i’w hen dy sydd wedi ei ail-adeiladu – ond mae hynny wedi profi’n heriol, meddai’r fam.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Jessica Williams: “Mae’n swreal ac yn llethol… ‘so fe ‘di bod yn plain-sailing o gwbl.
“Mae’n lot i ddelio gyda. Mae’n anodd oherwydd yr atgofion gwael ‘na ond ar yr un pryd, dyna ‘di cartref ni.
“Felly mae ‘na lot o emosiynau… ond mae’n neis i gael y closure ‘na o’r diwedd a bod ni’n gallu cau’r bennod ‘na o’m bywydau a cheisio symud ‘mlaen y gorau ag y gallwn ni.”
‘Siwrne’
Fe symudodd Jessica Williams, 34 oed, yn ôl i’r tŷ gyda’i phlant a’i gŵr, Michael, ar 5 Ionawr.
Mae’r teulu wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn byw yn nhŷ modryb Ms Williams, ond yn dilyn “lot o gefnogaeth” ag ymdrech i godi arian gan eu cymuned leol, roedd y teulu yn barod i ddychwelyd i’w cartref.
Ond mewn ffordd roedd disgwyl cyfnod mor hir i’r gwaith ail-adeiladu ddirwyn i ben yn “beth da” i’w lles meddyliol," medd Ms Williams.
“Mae ‘di bod yn siwrne,” meddai. “Ond mae hefyd wedi bod yn gadarnhaol mewn ffordd oherwydd dwi ‘di cael y blynyddoedd ‘na i ddelio gyda’r trawma."
Fe gafodd Jessica Williams ei chladdu yng nghegin y tŷ pan ddigwyddodd y ffrwydrad ym mis Mehefin 2020, ac roedd hi'n gallu clywed ei bechgyn “yn sgrechian o’r ystafell arall heb i mi allu cyrraedd nhw”.
Ychwanegodd Ms Williams: “Byse’ fe ‘di bod yn anoddach petai’r tŷ yn barod yn gynt, ond gan ei fod wedi bod tair a hanner mlynedd bellach, dwi ‘di delio gyda’r emosiynau.
“O’n i angen yr amser ‘na i ffwrdd cyn o’n i'n gallu dychwelyd.”
‘Symud ymlaen’
Mae’r teulu nawr yn awyddus i “symud ymlaen” gyda’u bywydau.
Ac wedi iddi gwblhau cwrs prentisiaeth i ofalu am blant, mae Jessica Williams bellach wedi cyrraedd rhestr fer Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024.
Fel arweinydd meithrinfa Sêr Bach y Cwm, sy'n feithrinfa Dechrau'n Deg yn Ysgol Golwg y Cwm yn Ystradgynlais, fe ddechreuodd Ms Williams ar y cwrs cyn i’r ffrwydrad “newid ei bywyd".
Roedd rhaid iddi gwblhau’r cwrs tra oedd hi’n dal i wella, ac roedd hynny’n cynnwys dysgu sut i gerdded eto.
Ar ôl derbyn sawl llawdriniaeth ar ei chroen, nid oedd Ms Williams yn medru defnyddio ei dwylo i ysgrifennu ac roedd rhaid iddi “addasu” gan recordio ei llais wrth ateb cwestiynau fel rhan o’i chwrs.
“Roedd rhaid i mi ystyried os o’n i am ddychwelyd i’r gwaith achos o’n i amau a oeddwn i’n medru cyflawni’r rôl," meddai.
"Ond dwi’n rili, rili caru fy swydd felly ‘nes i jyst trio fy ngorau i ddyfalbarhau.
“Mae’n mor lyfli i glywed fy mod i wedi cyrraedd y rhestr fer, dwi ‘di synnu a dwi’n mor ddiolchgar."
Mae Jessica Williams bellach yn edrych ymlaen at ei dyfodol gyda’i theulu.
“Mae’n hyfryd hefyd ein bod ni’n gartre’ o’r diwedd a gallu ‘neud atgofion newydd wrth i’r bechgyn tyfu,” meddai.