Newyddion S4C

'Pryderus fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried annibyniaeth'

David TC Davies

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud ei fod yn 'bryderus' fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried annibyniaeth.

Roedd David TC Davies yn ateb cwestiynau mewn sesiwn yn San Steffan ddydd Mercher oedd yn trafod adroddiad diweddar Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae'r Comisiwn wedi bod yn ystyried dros y ddwy flynedd ddiwethaf; pa fath o Gymru ydyn ni eisiau adeiladu i'r dyfodol? - ers ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru dros ddwy flynedd yn ôl.

Roedd yr AS Ceidwadol dros Ogledd Dudley, Marco Longhi wedi holi Mr Davies am unrhyw drafodaethau yr oedd wedi eu cael gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi adroddiad terfynol y Comisiwn.

Fe aeth Mr Davies ymlaen i feirniadu Llywodraeth Cymru a chynnwys adroddiad y Comisiwn, gan ddweud nad oedd y comisiwn ei hun yn un llwyr "annibynnol", a'u bod wedi "methu adnabod problemau sydd wedi eu creu gan Lywodraeth Lafur Cymru" ond yn hytrach wedi canolbwyntio ar gynnwys "galwadau am ddatganoli mwy o bwerau" i'r Senedd yng Nghaerdydd.

Fe ychwanegodd Mr Davies: "Mae’n destun pryder aruthrol bod Llywodraeth Lafur Cymru hyd yn oed yn fodlon ystyried annibyniaeth i Gymru gyda’r comisiwn hwn."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.