Newyddion S4C

Cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

19/01/2024

Cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Pa fath o Gymru ydyn ni eisiau adeiladu i'r dyfodol?

Dyna'r cwestiwn mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi bod yn ystyried dros y ddwy flynedd ddiwethaf ers ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

Wedi dod i'r casgliad nad ydy'r sefyllfa fel ag y mae yn gynaliadwy, mae'r panel yn dweud bod yna 3 ateb posib.

Yr opsiwn cyntaf yw atgyfnerthu'r sefyllfa bresennol drwy ddiweddaru grymoedd y Senedd a gwaredu cyfyngiadau diangen.

Dyna'r ateb rhwyddaf yn ôl y Comisiwn. Ond mae risg y byddai perfformiad economaidd gwael incymau isel a thlodi yn parhau yng Nghymru.

Yr ail opsiwn ydy creu strwythur ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig ble byddai pob cenedl yn cael ei thrin yn gyfartal.

Mae'r opsiwn yma'n cynnig ffordd ganol yn ôl y Comisiwn ond byddai angen cefnogaeth rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd.

Ar hyn o bryd, dydy hynny ddim yno. Y trydydd ateb ydy annibyniaeth. Dyna'r opsiwn mwyaf ansicr o bell ffordd yn ôl y Comisiwn.

Mae'r Comisiwn gafodd ei gadeirio gan gyn-Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn rhybuddio byddai Cymru annibynnol yn wynebu her ariannol a dewisiadau anodd yn y tymor byr i ganolig ond mae e hefyd yn dweud y gallai Cymru annibynnol lwyddo.

Roeddwn ni gyd yn siŵr bod annibyniaeth yn opsiwn. Mae'n rhaid i ni gyd feddwl amdano.

Tasg y Comisiwn oedd scoping nid dewis rhwng yr opsiynau.

Mae'r opsiynau i gyd yn dibynnu ar eich gwerthoedd chi ar eich persbectif chi.

Bydd rhai yn ystyried bod y risgiau o annibyniaeth yn y tymor byr tymor canol yn rhai sy'n werth eu cymryd.

Oherwydd yn yr hirdymor, maen nhw'n gweld annibyniaeth fel ffordd i drawsnewid cymdeithas ac economi Cymru mewn ffordd na fyddech chi'n gallu gwneud gyda'r opsiynau eraill. Byddai eraill yn dadlau bod y risg yn ormod.

Felly beth oedd y farn ym Machynlleth? Cartref hen Senedd-dy Owain Glyndŵr.

Dw i'n derbyn bod 'na broblemau er enghraifft heriau ariannol o wlad fach yn mynd yn annibynnol.

Ond os 'dan ni'n edrych tuag at Ewrop mae 'na wledydd lot llai na Chymru sy'n annibynnol.

Dw i'm yn meddwl bod yr arian tu nôl Cymru. Pwy fusnesau sydd yma i gadw ni fynd? Diolch o galon i aelodau'r Comisiwn. Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y byddai'r Llywodraeth yn ystyried yr adroddiad yn ofalus.

Roedd ymateb cymysg gan y gwrthbleidiau. Mae gynnon ni neges glir yn fan hyn.

Mae'r allwedd i'n dyfodol yn ein dwylo ni a bod annibyniaeth yn ateb gallwn fynd ar ei ôl.

Fy ngwaith i ydy cyffroi pobl am yr opsiwn yna. Roedd y Comisiwn yn wastraff amser ac arian. Yn lle canolbwyntio ar hyn dylai'r Llywodraeth feddwl am beth sy'n bwysig i bobl Cymru.

Pethau fel amseroedd aros, safonau addysg a'r economi. Ers dechrau datganoli mae sawl Comisiwn wedi ystyried grymoedd Cymru a nawr dyma adroddiad arall i ychwanegu at y casgliad yn llyfrgell y Senedd.

Gobaith awduron yr un yma yw na fydd yn cael ei adael i gasglu llwch.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.