Newyddion S4C

'Ysbrydoledig': Dau blentyn ifanc yn codi dros £2,000 er cof am eu brawd

08/03/2024
Tomi a Cai Jones

Mae dau fachgen ifanc a oedd yn rhedeg er cof am eu brawd wedi llwyddo i godi dros £2,000 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.

Fe wnaeth Cai Jones, sy’n naw oed ac yn byw yng Nghapel Bangor, ger Aberystwyth, redeg 13 milltir dros gyfnod o wythnos, yng nghwmni ei frawd Tomi, sydd yn 16 oed.

Roedd y ddau wedi penderfynu gosod her rhedeg er cof am eu brawd Ned Jones, a fu farw yn bump oed mewn damwain car wyth mlynedd ôl. 

Penderfynwyd cecodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, elusen sydd yn “agos iawn i galonnau'r” teulu ar ôl eu hymdrechion yn dilyn y gwrthdrawiad, ar ffordd yr A470 ar Ddydd Gwener y Groglith, 25 Mawrth 2016.

Image
Tomi, Ned a Cai
Tomi, Ned a Cai Jones

I nodi’r achlysur y byddai Ned wedi troi’n 13 oed ar 2 Mawrth, fe wnaeth y brodyr ymrwymo i redeg yn bellach nag y maen nhw wedi mentro erioed.

Penderfynodd Cai, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, i redeg dwy filltir bob dydd am chwe diwrnod, cyn cwblhau’r sialens drwy redeg milltir ar hyd promenâd Aberystwyth ar ddiwrnod pen-blwydd Ned – yng nghwmni 23 o’i ffrindiau.

Yn ogystal â hynny, bydd Tomi, sydd yn ddisgybl chweched ddosbarth yn Ysgol Gyfun Penweddig, yn gosod her ychwanegol i’w hyn yn hwyrach eleni, drwy gymryd rhan yn ras 10k Aberystwyth.

Nod y ddau oedd codi £1,300 i nodi pen-blwydd eu brawd yn 13 – ond fe lwyddodd i godi dros £1,000 un uwch na’r targed hwnnw.

Image
Cai
Cafodd Cai gwmni ei dad, Bleddyn, ei frawd, Tomi, a 23 o ffrindiau ar bromenâd Aberystwyth ddydd Sul

'Wythnos emosiynol'

Dywedodd Sharon: “Roedd yn eithaf emosiynol i weld cymaint oedd wedi dod i gefnogi, ac roedd yn golygu cymaint bod pob un ohonyn nhw yno wedi meddwl am Ned ar ei ben-blwydd.

“Roedd yn deimladwy iawn yn y diwedd pan oedd y rhedwyr i gyd yn ôl - roedden nhw i gyd yn gweiddi 'Pen-blwydd Hapus Ned!'

“Mae Cai wedi caru ei her. Mae wedi bod mor hapus drwy'r wythnos. Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae Tomi nawr yn edrych ymlaen at ddechrau ei hyfforddiant ar gyfer ei her dros yr haf.”

Ar ben-blwydd Ned, dathlodd y teulu gyda phryd bwyd Tsieineaidd, oherwydd dyna beth roedd Ned wedi gofyn amdano ar ei ben-blwydd yn bump oed ac mae’n rhywbeth maen nhw wedi’i wneud i nodi’r diwrnod ers ei golli.

Ychwanegodd Sharon: “Mi wnes i hefyd rannu blwch atgofion Ned gyda Cai y noson honno. Dyma'r tro cyntaf iddo ei weld. Roedd yn emosiynol iawn iddo gyffwrdd â chydun gwallt Ned a gosod ei law ar fodel plastr llaw Ned. 

"Ar y cyfan mae hi wedi bod yn wythnos emosiynol, ond rydw i mor hapus ein bod ni wedi gallu gwneud pen-blwydd Ned yn 13 yn arbennig, a bydd yn atgof i ni ei drysori.”

'Anhygoel'

Dywedodd Flora Stanbridge o Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae wedi codi’r galon i glywed sut mae Tomi a Cai yn codi arian er cof am eu brawd Ned.

“Mae’r gefnogaeth mae’r teulu Jones wedi dangos i’r elusen ers colli Ned wedi bod yn ysbrydoledig. Maent wedi troi amgylchiadau trasig o’r fath yn ganlyniad cadarnhaol drwy fod eisiau parhau i helpu eraill sydd angen ein cymorth yng Nghymru.

“Diolch yn fawr iawn i’w holl ffrindiau a theulu sydd wedi dangos eu cefnogaeth i’r bechgyn ac wedi nodi pen-blwydd Ned yn hyfryd. Edrychwn ymlaen at glywed sut y bydd Tomi yn bwrw ymlaen â’i her redeg yn ddiweddarach yn y flwyddyn a dymuno’n dda iddo.

“Mae pobl sy'n codi arian, fel Cai a Tomi yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd – maen nhw wedi codi swm anhygoel i ni. Diolch yn fawr i bawb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.