Newyddion S4C

'Cofio am Ned': Dau frawd ifanc yn gosod her rhedeg er cof am eu brawd

24/02/2024

'Cofio am Ned': Dau frawd ifanc yn gosod her rhedeg er cof am eu brawd

Bydd dau frawd o Geredigion yn rhedeg yn bellach nag y maen nhw erioed wedi ei redeg o’r blaen er cof am eu brawd a fu farw mewn damwain car wyth mlynedd ôl.

Bu farw Ned Jones, oedd yn bump oed, a’i nain, Margaretta Jones, 77 oed, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar ffordd yr A470 ar Ddydd Gwener y Groglith, 25 Mawrth 2016. 

Bu farw dau berson oedd yn teithio yn y car arall hefyd, yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng Llangurig a Rhaeadr.

I nodi’r achlysur y byddai Ned wedi troi’n 13 oed ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth, fe fydd ei frodyr Cai, naw oed, a Tomi, 16 oed, yn ymgymryd â heriau rhedeg gwahanol – gan redeg yn bellach nag y maen nhw wedi mentro erioed.

Image
Tomi, Ned a Cai
Tomi, Ned a Cai

Bydd Cai, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, yn rhedeg 13 milltir dros gyfnod o wythnos, gan gychwyn ddydd Sadwrn 24 Chwefror. 

Bydd yn rhedeg dwy filltir bob dydd am chwe diwrnod, gyda Tomi a’u tad, Bleddyn, yn agos i’w cartref ym mhentref Capel Bangor, cyn cwblhau’r sialens drwy redeg milltir ar hyd promenâd Aberystwyth ar ddiwrnod pen-blwydd Ned.

Yn ogystal â chynorthwyo ei frawd bach, bydd Tomi, sydd yn ddisgbyl chweched ddosbarth yn Ysgol Gyfun Penweddig, yn rhedeg yn ras 10k Aberystwyth fis Rhagfyr.

Bydd y ddau yn codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, elusen sydd yn “agos iawn i galonnau'r” teulu ar ôl eu hymdrechion yn dilyn y digwyddiad trasig wyth mlynedd yn ôl.

'Dathlu'

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd mam y bechgyn, Sharon Jones: “Gan fod y bydda hi’n ben-blwydd yn 13 ar Ned ar yr ail o Fawrth, wnaethon ni benderfynu bysen ni'n licio gwneud rhywbeth i ddathlu.

Image
Ned Jones
Ned Jones

“Just cyn y Nadolig, o’n i’n dechrau poeni rhywfaint am y cyfnod yn dod a gan fod pen-blwydd 13 oed yn rhywbeth eitha’ mawr i ddathlu, ac oeddwn i’n poeni bysan ni’n stryglo dros y cyfnod felly oeddan ni’n trio meddwl am rywbeth bysan ni i gyd yn gallu ffocysu ar a rhywbeth i ddod a bach o fwynhad dros y cyfnod.

“Mae’r ddau yn mwynhau rhedeg felly wnaethon ni benderfynu ar her rhedeg er mwyn codi arian i’r Ambiwlans Awyr, gan fod e’n rhywbeth sy’n agos iawn atom ni fel teulu.

“Fuon ni lawr yn cwrdd â’r criw Ambiwlans Awyr a’r paramedics fuodd yn ymateb i’r damwain, ac mae’n rhywbeth sy’n agos iawn at ein calonnau fel teulu. Mae’n braf gallu wneud e, a rhoi enw Ned ato fe.”

Pryd arbennig

Bydd ffrindiau a theulu yn ymuno â’r brodyr ar y rhediad olaf yn Aberystwyth, cyn y bydden nhw’n mynd am bryd bwyd arbennig i nodi’r achlysur ac i gofio am eu brawd.

“Dim ond 18 mis oedd Cai pan oedd y ddamwain felly dim ond drwy siarad am Ned a rhannu straeon mae Cai yn gallu cadw Ned yn fyw yn ei feddwl,” meddai Sharon.

Image
Cai a'r ci
Cai gyda Benji y ci

“Ac mae’n neis i Tomi. Roedd Tomi yn wyth oed ar y pryd pan fuodd y damwain, felly mae’n rhywbeth neis iddo, yr hynaf mae’n mynd, ei fod yn gallu helpu mewn rhyw ffordd.

“Maen nhw wastad yn gofyn am Chinese ar noson pen-blwydd Ned achos dyna be oedd Ned eisie ar ei ben-blwydd, felly maen nhw’n barod wedi dweud ar ôl gorffen yr her rhedeg eu bod eisie gorffen min nos wedyn gyda Chinese i fwyta.” 

Yn rhedwyr brwd ac yn cymryd rhan mewn sawl camp wahanol, mae Cai yn dweud ei fod ef a’i frawd yn “barod” am yr her o’u blaenau. Ond beth fydd yn ei yrru ymlaen i geisio ei gwblhau?

“I godi arian am Ambiwlans Awyr a cofio Ned,” meddai Cai.

“‘Da ni’n falch iawn ohonyn nhw,” ychwanegodd Sharon. “Mae’r ddau wrth eu boddau hefo chwaraeon, ac maen nhw’n edrych ymlaen nawr.

“Dwi’n gobeithio pan fyddan nhw’n hŷn, bydd e’n rhywbeth i gofio a rhywbeth i deimlo’n falch ohono pan maen nhw’n oedolion ac yn gallu meddwl yn ôl i gyfnod anodd, bydd e’n rhywbeth iddyn nhw deimlo’n falch o’u hunain.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.