Pryderon 'difrifol' am effaith gyllideb ddrafft y Llywodraeth ar y bobl fwyaf bregus
Mae Aelodau'r Senedd wedi codi “cwestiynau difrifol” ynglŷn â’r modd y gallai Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru effeithio ar y rhai sydd “fwyaf agored i niwed”.
Cafodd cyllideb ddrafft y Llywodraeth ar gyfer 2024/25 ei gyhoeddi fis Rhagfyr y llynedd yn ystod y "sefyllfa ariannol anoddaf", yn ôl y Llywodraeth.
Cafodd y cyllid ym meysydd fel amaeth, diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth ei dorri wrth i Wasanaeth Iechyd (GIG) a Thrafnidiaeth Cymru (TFW) cael eu blaenoriaethu yn y gyllideb.
Wrth ryddhau adroddiad yn craffu ar y gyllideb ddrafft fore Llun, mae Aelodau’r Senedd sydd ar Bwyllgor Cyllid y Senedd hefyd wedi amlygu pryderon ynglŷn â sut y bydd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu diogelu.
Er bod y gyllideb gan y Llywodraeth, sydd wedi ei alw’n ‘Gyllideb i Ddiogelu’r Gwasanaethau sydd Bwysicaf i Chi’, mae’r Pwyllgor Cyllid o’r farn ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo, na fydd y gyllideb yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.
Mae adroddiad yn dod i’r casgliad nad yw’n debygol y bydd y cyllid sydd wedi ei roi i awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol yn ddigon i gadw gwasanaethau ar “lefel dderbyniol”.
Yn ôl y Pwyllgor, ymddengys fod ffocws Llywodraeth Cymru ar wasanaethau rheng flaen wedi dod “ar draul” mesurau hirdymor i leihau tlodi.
Maent yn galw ar y Llywodraeth i ail-edrych ar ei gynlluniau ynglŷn â phrydau ysgol am ddim a gofal plant.
Mae’r Pwyllgor yn dadlau bod darparu prydau maethlon i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn rhan bwysig o fynd i’r afael â phroblemau tlodi hirdymor, ac mae’n galw ar y Gweinidog i edrych eto i weld a ellid ymestyn y cynllun i blant y mae eu rhieni’n cael Credyd Cynhwysol.
‘Testun pryder’
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Rydym yn cydnabod y sefyllfa ariannol anodd y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu, ond rydym yn pryderu am ei honiadau y bydd y Gyllideb hon yn diogelu gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru.
“Nid yn unig y mae’r Gyllideb hon yn annhebygol o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, nid ydym ychwaith yn gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur effaith yr arian ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu i’r GIG ac i Trafnidiaeth Cymru.
“Mae’r penderfyniad i beidio ag ymestyn y cynllun prydau ysgol am ddim a’r penderfyniad i dorri gwariant ar ofal plant hefyd yn destun pryder ac yn bethau a fydd yn cael effaith anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y penderfyniadau hyn.”
Pryderon ar draws y Pwyllgorau
Mae pwyllgorau eraill y Senedd hefyd wedi mynegi eu pryderon ynglŷn â’r gyllideb arfaethedig.
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau “fod pawb sy’n gymwys i gael cymorth yn ei dderbyn” yn sgil bwlch ariannu o £646 miliwn a welir yn y dyraniad ar gyfer gwasanaethau gofal awdurdodau lleol dros y tair blynedd nesaf.
Wedi i’r GIG fethu targed i leihau amseroedd aros cleifion allanol i lai na 52 wythnos, yn ogystal â’r targed i ddileu nifer y bobl sy’n aros dros ddwy flynedd i ddechrau eu triniaeth, mae’r pwyllgor wedi pwyso ar y Llywodraeth i nodi pa bryd y bydd y GIG yn cyflawni’r targedau hyn.
Mae pryderon wedi eu codi gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynglŷn â sgil effeithiau’r gyllideb ar ffermwyr, yn dilyn toriad yng nghyllideb amaeth.
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi nodi nifer o wallau yn y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y llywodraeth, ac yn pryderu am y gwariant cynyddol sydd wedi’i ymrwymo i Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn dod ar draul gwariant ar fioamrywiaeth, rheoli perygl llifogydd a dŵr, a gwastraff.
Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd yn pryderu am y nifer digynsail o bobl sy’n byw mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS: “Rydym wedi cael ein siomi’n arw gan agwedd Llywodraeth Cymru at y Gyllideb Ddrafft eleni.
“Nid mater i’r Pwyllgor Cyllid yn unig yw hwn. Mae llawer o bwyllgorau eraill yr un mor bryderus ynghylch yr amserlen fer a roddwyd i’r Senedd ddadansoddi’r cynlluniau hyn, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei dull gweithredu ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau gwell atebolrwydd democrataidd.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyma'r sefyllfa ariannol mwyaf anodd a phoenus inni ei hwynebu ers dechrau datganoli.
"Rydyn ni wedi bod yn glir wrth fynd i mewn i'n paratoadau cyllideb ddrafft bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd dros ben oherwydd bod ein Cyllideb bellach werth £1.3bn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021.
"Byddwn yn ystyried y canfyddiadau hyn ac adroddiadau eraill y Pwyllgor Craffu dros yr wythnosau nesaf cyn cyhoeddi ein Cyllideb derfynol ar 27 Chwefror."