Toriadau i amaeth, diwylliant a chwaraeon yng Nghyllideb ddrafft 2024-25
Toriadau i amaeth, diwylliant a chwaraeon yng Nghyllideb ddrafft 2024-25
Mae toriadau wedi eu cyhoeddi ym meysydd amaeth, diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth wrth i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu Iechyd ac Addysg wrth gyhoeddi Cyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25.
Mae meysydd cyfiawnder cymdeithasol ac adran weinyddol y Llywodraeth hefyd wedi derbyn toriadau sylweddol, wrth i’r Llywodraeth amlinellu sut y bydd yn gwario eu cyllideb, sy’n werth dros £22 biliwn.
Bydd busnesau fel siopau a thafarndai hefyd yn gweld cynnydd mewn cyfraddau treth busnes.
Yn ôl y Llywodraeth, o ganlyniad i chwyddiant, mae cyllideb gyffredinol Cymru yn werth £1.3bn yn llai mewn termau real ers iddi gael ei gosod yn 2021.
Dywedodd y llywodraeth fod y Gyllideb ddrafft wedi ei llunio “ar adeg pan fo’r sefyllfa ariannol anoddaf i Gymru ei hwynebu ers dechrau datganoli yn ei hanterth."
Cyllideb
Yn ôl y gyllideb ddrafft, bydd £450 miliwn ychwanegol ar gael i'r Gwasanaeth Iechyd, ond bydd hynny yn cynrychioli cynnydd sydd yn is na lefel chwyddiant.
Bydd y setliad craidd ar gyfer cynghorau sir yng Nghymru hefyd yn cynyddu 3.1%.
Ond hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol, mae’r Llywodraeth wedi rhybuddio fod “byrddau iechyd a chynghorau yn wynebu blwyddyn anodd iawn i ddod.”
Bydd gostyngiad o 12.5% yng ngwariant adran Materion Gwledig o gymharu â’r gyllideb 2023-24.
Dywedodd y Llywodraeth y byddai lefel Incwm Sylfaenol i ffermwyr yn aros ar yr un lefel, ond eu bod yn “teimlo’r effaith o benderfyniadau Llywodraeth y DU, sydd yn golygu bod £243 miliwn mewn ariannu cyfatebol wedi ei golli”.
Mae gostyngiad o bron i 12% wedi ei gynnig yng nghyllideb adran Cyfiawnder Cymdeithasol, ond bydd yn cynyddu’r lefel o ariannu ar gyfer y cynllun incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal.
Mae £16 miliwn wedi ei dynnu o gyllideb adran diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth, tra bod Cadw wedi profi toriad o £2 miliwn.
Roedd hefyd gostyngiad o 7.55% yng nghyllideb Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu, sydd yn talu am staff ac offer technolegol Llywodraeth Cymru, ac am gynnal ei hadeiladau.
'Pwysau eithriadol'
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid: "Ry'n ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ail-ddylunio ein cynlluniau gwario yn sylweddol iawn i dargedu cyllid at y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.
"Ar ôl tair blynedd ar ddeg o gyni, cytundeb Brexit diffygiol a'r argyfwng costau byw presennol, dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf i Gymru ei hwynebu ers dechrau datganoli.
“Dyw ein setliad ariannu, sy'n dod yn bennaf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ddim yn ddigon yn sgil y pwysau eithriadol sy'n wynebu Cymru.
"Ry'n ni wedi gorfod gwneud y dewisiadau mwyaf cyfyng a phoenus o ran y gyllideb ers dechrau datganoli.
“Ry'n ni wedi ail-lunio cynlluniau gwario adrannau fel y gallwn fuddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd a diogelu cyllid craidd llywodraeth leol ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau eraill ry'n ni'n dibynnu arnyn nhw bob dydd.”
Wrth ymateb dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod "diffyg sylwedd yn y cynlluniau, a bod 24 mlynedd o reolaeth Llafur wedi golygu methiant i ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau canlyniadau i bobl Cymru.
"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwario pob ceiniog mae Llywodraeth Cymru yn ei derbyn ar gyfer iechyd ar iechyd, a chynnig cynllun gweithlu sylweddol i daclo rhestrau aros hir Llafur."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod y gyllideb hon yn "anghynaladwy" ac y bydd yn cael "effaith hirdymor ddifrifol ar bobl ar lawr gwlad ledled Cymru"
"Does dim dwywaith bod y cyd-destun yn un anodd iawn, ond mae Cymru'n wynebu ergyd ddwbl.
"Ar y naill law, mae'r fargen ariannu a gawn gan Lywodraeth y DU yn annheg ac yn annigonol... Ar y llaw arall, rhaid gofyn cwestiynau difrifol hefyd am y ffordd y mae Llafur yn gwario arian cyhoeddus."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae Llywodraeth Cymru wedi’i hariannu’n dda i gyflawni ei chyfrifoldebau datganoledig – gan ein bod yn rhoi setliad o £18 biliwn y flwyddyn iddi, sef yr uchaf ers datganoli.
“Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn tua 20% yn fwy y pen na gwariant cyfatebol Llywodraeth y DU mewn rhannau eraill o’r DU. Mae hynny'n cyfateb i £3.5 biliwn yn fwy y flwyddyn ar gyfartaledd. Yn y pen draw, rhaid iddo ateb i’r Senedd a phobl Cymru sut y mae’n dewis ariannu gwasanaethau.”
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ei chyllideb ddydd Mawrth gan ddatgelu y bydd yn rhaid i bobl ar incwm uwch orfod talu treth incwm o 45%.
Bydd y dreth incwm yma yn gael ei chyflwyno ar gyfer pobl sy'n ennill rhwng £75,000 a £125,140.