'Angen mwy o ymwybyddiaeth o'r Gymraeg' ar draws Prydain, meddai'r cyflwynydd Mared Parry
'Angen mwy o ymwybyddiaeth o'r Gymraeg' ar draws Prydain, meddai'r cyflwynydd Mared Parry
Mae angen fwy o ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg ar bobl a sefydliadau ar draws Prydain, yn ôl y newyddiadurwr a chyflwynydd, Mared Parry.
Mae archfarchnad B&M eisoes wedi ymddiheuro i gwsmeriaid ei siop newydd ym Mhorthmadog am arddangos arwyddion Cymraeg anghywir.
Ar ôl agor siop yn y dref ddydd Iau, fe wnaeth cwsmeriaid sylweddoli bod arwyddion y siop wedi eu cyfieithu'n anghywir .
Y tu allan, roedd un arwydd yn dweud, “Naw ar Agor / Now Opening”.
Y tu mewn i’r siop, uwchlaw'r allanfa, roedd arwydd arall yn dweud: “Ffoniwch eto yn fuan / Please Call Again Soon.”
Mae B&M bellach wedi tynnu’r arwyddion i lawr, gan addo eu cywiro.
Pan welodd Mared Parry luniau o'r arwyddion yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei bod wedi ei wneud yn “flin”.
“Mae’n jôc rili yndi, dio’m yn anodd cael rhywbeth mor syml yn iawn,” meddai Mared, sydd yn wreiddiol o Ffestiniog ond bellach yn byw yn Llundain.
“Neshi weld lluniau ma o’r seins ofnadwy ar Facebook a neshi gweld pawb yn siarad amdano fo ar Facebook ag oni fel ‘dyma ni eto!’.
“Faint mor anodd ydi o i ofyn i rywun? Mae 'na ddigon o bobl ‘sa chdi’n gallu gofyn i neu rywun, literally rywun sy’n deall Cymraeg just i gael look sydyn, ond oedd neb di neud so oedd o di annoyio fi.
“So nes i roi o ar Twitter (X) a gweld be oedd pobl eraill yn feddwl, a ddaru o chwythu i fyny, achos oedd pawb just mor flin â fi!”
'Bizzare'
Cafodd ei neges ar gyfrwng X ei weld dros 70,000 o weithiau mewn 24 awr, gyda sawl dilynwr yn rhannu ei dicter.
Inline Tweet: https://twitter.com/maredparry/status/1748034529128820888?s=20
Ond roedd rhai sylwadau hefyd yn cwestiynu'r angen am arwyddion dwyieithog yng Nghymru.
Ychwanegodd Mared, sydd yn cyflwyno rhaglen Hansh, Tisho Fforc?: “Mae pobl o hyd yn trio bychanu’r Gymraeg dydi, yn enwedig ar Twitter.
“Mae pobl yn cymryd unrhyw siawns maen nhw’n gallu i gymryd y mici allan o’r iaith achos bod nhw’n meddwl fod o’n ‘gotcha’ pan ma nhw’n deud does neb yn siarad Cymraeg - ond di nhw ddim yn rili sbïo ar y ffeithiau.
“Yng Ngwynedd, mae 75% o bobl yn siarad Cymraeg, mae’n iaith gynta’ mwyafrif o bobl yn fanna. Mae o just yn stupid pobl yn trio cael ‘gotcha’ bob tro. Just ignorance ‘dio mwy na ddim byd de.
“Mae pawb ym Mhrydain angen bach fwy o ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg. Dwi di byw yn Llundain ers rhyw chwe, saith mlynedd rŵan, ac mae’r amount o bobl sy’n cwrdd â fi sy’n ffeindio allan bo fi’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, maen nhw i gyd yn shocked bod 'na even iaith yna.
“Ma huna’n bizarre i fi. Does ‘na ddim digon o ymwybyddiaeth o’r iaith, yn enwedig hanes yr iaith a pam da ni’m yn siarad o cyn gymaint ag oeddan ni gan mlynedd yn ôl. Di pobol ddim yn gwybod hynny.
“Mae pobol angan agor eu meddyliau i fyny dipyn bach mwy a meddwl pam hwyrach bo ni i gyd mor passionate amdan yr iaith Gymraeg a pam ‘da ni mor flin pan mae bobl yn anghofio fo.
“Achos mae o hyd yn cael oversight gan bobl bob munud, a dio ddim yn cael ei weld fel rhywbeth pwysig, ond mae o i ni. Mae huna’n rhywbeth ma pobol angan cysidro bach mwy, a dwi’n hapus i ddangos iddyn nhw pam de.”
Dywedodd llefarydd ar ran B&M ddydd Gwener: “Rydym yn ymwybodol o’r gwallau ar yr arwyddion, ac rydym wedi cymryd camau i gael gwared arnyn nhw a chael rhai newydd yn eu lle ar unwaith.
“Ymddiheurwn am unrhyw ofid y gall hyn fod wedi ei achosi.”