'Anghredadwy': Ymddiheuro am arwyddion Cymraeg anghywir ym Mhorthmadog
Mae archfarchnad B&M wedi ymddiheuro i gwsmeriaid ei siop newydd ym Mhorthmadog am arddangos arwyddion Cymraeg anghywir.
Fe wnaeth siop B&M agor yn y dref ddydd Iau ar safle hen siop Wilkinson’s.
Ond yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, fe wnaeth cwsmeriaid sylweddoli bod arwyddion y siop wedi eu cyfieithu'n anghywir .
Y tu allan, mae un arwydd yn dweud, “Naw ar Agor / Now Opening”.
Y tu mewn i’r siop, uwchlaw'r allanfa, mae arwydd arall yn dweud: “Ffoniwch eto yn fuan / Please Call Again Soon.”
Fe gafodd lluniau o’r arwyddion eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn dweud fod y camgymeriadau yn “anghredadwy” ac yn “ofnadwy”.
Mae B&M wedi ymddiheuro i gwsmeriaid, gan ddweud eu bod yn “gweithredu” er mwyn cael gwared ar yr arwyddion gwallus ar unwaith.
Dywedodd Mared Parry ar gyfrwng X: “Mae B&M newydd agor siop ym Mhorthmadog ac wedi gwneud smonach anghredadwy o’r cyfieithu Cymraeg.
“Sawl lefel o gymeradwyo mae hyn yn mynd drwyddo? Dim ond iddyn nhw ddweud ‘Galwch ar y ffôn eto’n fuan’, yn lle ‘galwch yn fuan’, a ‘naw ar agor’ yn lle ‘nawr ar agor’?”
Inline Tweet: https://twitter.com/maredparry/status/1748034529128820888?s=20
Dywedodd y cynghorydd Gwilym Jones ei fod am ofyn i reolwr y siop i newid yr arwyddion ar unwaith.
“Mae isho newid nhw does," meddai.
“Neshi sylwi cyn iddo agor fod 'na arwydd mawr Gymraeg yna yn dweud ‘Agor yn fuan’, a neshi feddwl adeg hynny, chwarae teg iddyn nhw. Mae’n braf cael y siop yna i ddeud y gwir.
“Be wna’i ydi piciad i lawr yna i gael gair efo’r rheolwr a gofyn os fedran nhw newid yr arwyddion, a’u tynnu i lawr nes bod nhw wedi cael eu cywiro.”
Dywedodd llefarydd ar ran B&M: “Rydym yn ymwybodol o’r gwallau ar yr arwyddion, ac rydym wedi cymryd camau i gael gwared arnyn nhw a chael rhai newydd yn eu lle ar unwaith.
“Ymddiheurwn am unrhyw ofid y gall hyn fod wedi ei achosi.”