Newyddion S4C

Erlynydd oedd yn ymchwilio i ymosodiad ar stiwdio deledu yn Ecuador wedi’i ladd

18/01/2024
Ecwador

Mae erlynydd oedd yn ymchwilio i ymosodiad ar stiwdio deledu yn Ecuador yr wythnos ddiwethaf wedi’i ladd, meddai swyddogion.

Cafodd César Suárez ei saethu’n farw yn ninas borthladd Guayaquil yn nhalaith Guayas ddydd Mercher, meddai’r twrnai cyffredinol.

Dyw hi ddim yn glir a yw marwolaeth Mr Suarez yn gysylltiedig â'i ymchwiliad i'r ymosodiad ar orsaf deledu.

Yn ystod y digwyddiad dramatig yr wythnos diwethaf, ffrwydrodd dynion i mewn i stiwdio sianel deledu gyhoeddus TC yn ystod darllediad byw a'u bygwth gyda drylliau.

Roedd lluniau a ddarlledwyd yn fyw yn dangos y newyddiadurwr Jose Luis Calderon yn pledio gyda’r dynion, tra bod staff yr orsaf yn cael eu gorfodi i eistedd neu orwedd ar lawr y stiwdio.

Cafodd un dyn camera ei saethu yn ei goes, tra bod braich un arall wedi’i thorri yn ystod yr ymosodiad, meddai dirprwy gyfarwyddwr newyddion TC.

Mae'r cyfryngau lleol yn adrodd bod Mr Suárez wedi'i saethu wrth yrru ger ei swyddfa. Mae lluniau heb eu gwirio ar gyfryngau cymdeithasol hefyd yn dangos cerbyd gyda thyllau bwled yn y ffenestr.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd El Universo ddiwrnod cyn ei farwolaeth, dywedodd Mr Suárez nad oedd wedi cael ei amddiffyn gan yr heddlu er iddo holi’r 13 o bobol a gafodd eu harestio yn dilyn yr ymosodiad ar orsaf deledu.

Mewn ymateb, fe wnaeth Arlywydd Ecuador Daniel Noboa ddatgan sefyllfa o argyfwng hyd 60 diwrnod, ac fe wnaeth orchymyn y fyddin i “niwtraleiddio” 22 o grwpiau arfog a ddiffiniwyd ganddo fel sefydliadau terfysgol.

Prif lun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.