Newyddion S4C

Gweithwyr rhaglen deledu yn Ecuador wedi'u bygwth gan ddynion arfog

10/01/2024
Rhaglen teledu TC

Mae 13 o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i ddynion arfog fygwth staff mewn stiwdio deledu yn Ecuador, wrth i raglen gael ei darlledu’n fyw ar yr awyr. 

Cafodd gweithwyr rhaglen deledu TC yn ninas Guayaquil eu gorfodi i ddisgyn i’r llawr gan ddynion arfog oedd â gorchudd dros eu hwynebau, cyn i’r ffrwd byw ddod i ben. 

Dywedodd yr awdurdodau yn lleol bod gweithwyr rhaglen TC wedi eu hachub a’u rhyddhau gan blismyn. 

Dywedodd yr orsaf deledu fod dau weithiwr wedi’u hanafu. Cafodd dyn camera ei saethu yn ei goes ac mae gweithiwr arall wedi torri ei fraich.

Mewn fideo a gafodd ei rannu ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol yr heddlu yn lleol, daeth rhybudd y byddai’r ymosodwyr yn cael eu “cosbi am weithredoedd terfysgol.”

‘Argyfwng’

Daw’r ymosodiad wedi i o leiaf 10 o bobl gael eu lladd yn Ecuador ers ddydd Llun, a hynny ar ôl i ystad o argyfwng gael ei gyhoeddi yno am 60 diwrnod. 

Fe gafodd yr argyfwng ei gyhoeddi ar ôl i arweinydd giang adnabyddus y Choneros ddiflannu o’i gell mewn carchar. Ond mae’n aneglur a yw diflaniad Adolfo Macías Villamar, yn gysylltiedig â'r ymosodiad yn y stiwdio deledu, medd yr awdurdodau. 

Roedd anhrefn pellach mewn o leiaf chwe charchar arall ddydd Llun, ac fe gafodd wyth o bobl eu lladd a thri eu hanafu mewn ymosodiadau sy’n gysylltiedig â giangiau yn Guayaquil ddydd Mawrth. 

Yn ninas Riobamba, mae bron i 40 o garcharorion wedi dianc. Ac mae o leiaf saith o swyddogion yr heddlu hefyd wedi eu herwgipio. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.