Chwe Gwlad: Dafydd Jenkins wedi ei enwi yn gapten ar Gymru
Mae Dafydd Jenkins wedi ei enwi yn gapten ar Gymru wrth i Warren Gatland gyhoeddi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2024.
Bydd y clo, sydd yn gapten ar glwb Caerwysg yn Uwch Gynghrair Lloegr, yn arwain Cymru yn dilyn anafiadau i Jac Morgan a Dewi Lake, a oedd yn gyd-gapteiniaid yn ystod Cwpan y Byd y llynedd.
Dywedodd Gatland fod ei "agwedd a phroffesiynoldeb" wedi "creu argraff" arno fo a'i dîm hyfforddi.
Mae Gatland wedi cyhoeddi carfan o 34 o chwaraewyr ar gyfer y bencampwriaeth.
Nid yw'r asgellwr Louis Rees-Zammitt wedi ei gynnwys, wedi iddo gyhoeddi ei fod yn gadael rygbi er mwyn ceisio chwarae pêl-droed Americanaidd gyda'r NFL.
Nid yw'r wythwr Taulupue Faletau wedi ei gynnwys chwaith wedi iddo dorri ei fraich yn ystod Cwpan y Byd.
Mae pum chwaraewr ddi-gap hefyd wedi eu cynnwys, megis Alex Mann, Mackenzie Martin, Evan Lloyd a Cameron Winnett o Gaerdydd, a'r prop Archie Griffin o Gaerfaddon.
Yn dilyn ymddeoliad rhyngwladol Dan Biggar ac anaf i Gareth Anscombe, mae Ioan Lloyd, Sam Costelow a Cai Evans wedi eu henwi fel maswyr.
'Wrth ei fodd'
Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch gyda gêm gartref yn erbyn Yr Alban yn y Stadiwm Principality ar Ddydd Sadwrn 3 Chwefror.
Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru gadarnhau ddydd Mawrth fod pob tocyn ar gyfer y gêm agoriadol wedi ei werthu.
Hon fydd ail ymgyrch Gatland wrth y llyw ers iddo ddychwelyd yn brif hyfforddwr ar Gymru ym mis Ionawr y llynedd.
"‘Roedd wrth ei fodd pan ffoniais ef i gynnig y gapteiniaeth iddo – a gyda chefnogaeth y garfan – fe wnaiff gapten da.
"Mae’r chwaraewyr ifanc yma yn fy nghyffroi ac ‘rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu yn ystod y pedair blynedd nesaf.
"Rwyf wedi dysgu dros y blynyddoedd bod yn rhaid mynd yn ôl i’r dechrau i raddau bob pedair blynedd gan eich bod yn anelu at gael y garfan yn eu hugeiniau canol neu hwyr erbyn Cwpan y Byd."
Carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad 2024
Blaenwyr (19)
Corey Domachowski (Caerdydd – 6 cap)
Kemsley Mathias (Scarlets – 1 cap)
Gareth Thomas (Gweilch – 26 cap)
Elliot Dee (Dreigiau – 46 cap)
Ryan Elias (Scarlets – 38 cap)
Evan Lloyd (Caerdydd – heb gap)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 2 cap)
Leon Brown (Dreigiau – 23 cap)
Archie Griffin (Caerfaddon – heb gap)
Adam Beard (Gweilch – 51 cap)
Dafydd Jenkins (Capten - Caerwysg – 12 cap)
Will Rowlands (Racing 92 – 29 cap)
Teddy Williams (Caerdydd – 1 cap)
Taine Basham (Dreigiau – 16 cap)
James Botham (Caerdydd – 9 cap)
Alex Mann (Caerdydd – heb gap)
Mackenzie Martin (Caerdydd – heb gap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 13 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 43 cap)
Olwyr (15)
Gareth Davies (Scarlets – 74 cap)
Kieran Hardy (Scarlets – 18 cap)
Tomos Williams (Caerdydd – 53 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 8 cap)
Cai Evans (Dreigiau – 1 cap)
Ioan Lloyd (Scarlets – 2 cap)
Mason Grady (Caerdydd – 6 cap)
George North (Gweilch – 118 cap)
Joe Roberts (Scarlets – 1 cap)
Nick Tompkins (Saracens – 32 cap)
Owen Watkin (Gweilch – 36 cap)
Josh Adams (Caerdydd – 53 cap)
Rio Dyer (Dreigiau – 14 cap)
Tom Rogers (Scarlets – 3 cap)
Cameron Winnett (Caerdydd – heb gap)