Newyddion S4C

Louis Rees-Zammit am adael rygbi i geisio ymuno â’r NFL

16/01/2024

Louis Rees-Zammit am adael rygbi i geisio ymuno â’r NFL

Mae chwaraewr rygbi Cymru Louis Rees-Zammit wedi dweud ei fod am adael rygbi a thîm Cymru i geisio ymuno â’r NFL.

Daw’r cyhoeddiad ar drothwy enwi carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad.

Mae Rees-Zammit sydd yn 22 oed wedi chwarae 32 gwaith dros ei wlad. 

Fe fydd yn gadael rygbi er mwyn ceisio ymuno â'r NFL, sef y gynghrair bêl-droed Americanaidd.

Daeth y cyhoeddiad ychydig funudau cyn i Warren Gatland gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a fydd yn dechrau ym mis Chwefror. 

'Penderfyniad gofalus'

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Louis Rees-Zammit: "Hoffwn gymryd y cyfle i gyhoeddi penderfyniad sylweddol yn fy ngyrfa, ac un dwi wedi ei wneud ar ôl llawer o ystyriaeth. 

 "Mewn datblygiad hynod o gyffrous, gallaf gadarnhau y byddaf yn ymuno â rhaglen Llwybr Chwaraewr Rhyngwladol (IPP) er mwyn ceisio ennill lle ar restr yr NFL yn yr Unol Daleithiau yn 2024. 

"Mae dewis i gamu yn ôl o rygbi rhyngwladol ar drothwy y Chwe Gwlad wedi bod yn benderfyniad ofnadwy o ofalus, ond dwi’n hynod o gyffrous i gael cyfle unwaith mewn bywyd i fynd ar ôl her newydd. 

"Dwi hefyd yn ddiolchgar iawn i Rygbi Gloucester – clwb sydd yn agos iawn at fy nghalon, a George Skivington ac Alex Brown, am adael i mi fynd mewn cyfeiriad gwahanol dros yr wythnosau nesaf."

Mae Llwybr Chwaraewr Rhynglwadol yr NFL yn rhoi'r cyfle i athletwyr ennill eu lle ar restr yr NFL.

Ychwanegodd: "Er y gallai’r penderfyniad ymddangos fel sioc, hoffwn bwysleisio nad yw hyn o reidrwydd yn golygu fy mod yn ymddeol o rygbi, ond yn ystod y cyfnod yma yn fy mywyd, dwi’n edrych ymlaen at gael mentro i mewn i her unigryw sydd gyda’r potensial i amrywio fy set sgiliau.

"Dwi’n dymuno’r gorau i Gymru ar gyfer y Chwe Gwlad a’r flwyddyn o’u blaenau, ac mi fyddai yn parhau i ddilyn cynnydd Gloucester o bell. 

"I fy holl ddilynwyr, cefnogwyr a theulu, hoffwn ddiolch am eich cefnogaeth ac yn edrych ymlaen at ei gael drwy gydol y bennod nesaf."

'Braint arbennig'

Dywedodd Louis Rees-Zammit wrth glwb rygbi Gloucester mewn datganiad: "Mae Rygbi Gloucester wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd. O'r dechrau yng Ngholeg Hartpury a fy nghytundeb rygbi proffesiynol cyntaf gyda Gloucester yn 2020, i fy nghapiau dros Gymru a'r Llewod; mae'r clwb wedi bod yn ganolog i fy natblygiad fel chwaraewr, a dwi mor ddiolchgar am eu cefnogaeth. 

"Dwi wedi cael y fraint arbennig o chwarae rygbi dros fy ngwlad, ac fel Cymro balch, dydw i erioed wedi cymryd hyn yn ganiataol.

"Ond dwi'n teimlo mai dyma'r amser cywir i mi wireddu gôl broffesiynol arall sef chwarae pêl-droed Americanaidd yn UDA. Dydy cyfleoedd fel hyn ddim yn digwydd yn aml."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.