Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

09/06/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif straeon ar fore dydd Mercher, 9 Mehefin.

Covid hir: ‘Dwi’n berson gwahanol - mae’n anodd derbyn hynna'

I filoedd o bobl yng Nghymru, mae Covid-19 wedi trawsnewid eu bywydau yn gyfan gwbl, ac i rai, mae’r feirws yn dal i effeithio ar eu hiechyd yn ddyddiol. Mae Sharon Krause, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn dweud ei bod hi wedi “colli blwyddyn” o’i bywyd wrth geisio cael cymorth a thriniaeth i drin ei symptomau o Covid hir.

Cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sy'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau

Roedd cynnydd o 50% yn nifer y bobl gafodd eu dal yn gyrru o dan ddylanwad cyffuriau yng Nghymru'r llynedd i 3,610, yn ôl ffigyrau newydd. Mewn rhai ardaloedd, roedd y cynnydd yn ystod blwyddyn y pandemig bron yn 90%. Mae un plismon wedi dweud bod eleni yn debygol o fod yr un mor brysur â llynedd.

G7: Cernyw yn paratoi i groesawu arweinwyr byd

Bydd Cernyw yn dechrau croesawu rhai o arweinwyr mwyaf pwerus y byd nos Fercher ar gyfer Uwchgynhadledd y G7. Mae miloedd o gynrychiolwyr, newyddiadurwyr a swyddogion yr heddlu yn y sir yn rhan o'r paratoadau.

Y Senedd i ddadlau penderfyniad i gyflwyno NVZ ar draws Cymru

Fe fydd Senedd Cymru yn dadlau penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Parth Perygl Nitradau, neu NVZ, ar draws Cymru gyfan yn ddiweddarach ddydd Mercher. Mae cyflwyno'r rheolau NVZ yn golygu y bydd rhaid i ffermwyr ddilyn rheolau llym i reoli llygredd nitradau sy'n dod o arferion amaethyddol.

Rhys Ifans yn cefnogi ymgyrch i geisio achub tafarn leol

Mae cymuned yng Ngwynedd sy'n ceisio achub eu tafarn leol wedi cael cefnogaeth gan yr actor Rhys Ifans. Mae tafarn Ty'n Llan yn Llandwrog wedi bod ar gau ers 2017. Hyd yn hyn, mae Menter Ty'n Llan, a gafodd ei sefydlu ym mis Chwefror wedi codi 70% o'i darged o £400,000.

Dilynwch ddatblygiadau diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.