Newyddion S4C

Y Senedd i ddadlau penderfyniad i gyflwyno NVZ ar draws Cymru

Tractor

Fe fydd Senedd Cymru yn dadlau penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Parth Perygl Nitradau, neu NVZ, ar draws Cymru gyfan yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Mae cyflwyno'r rheolau NVZ yn golygu y bydd rhaid i ffermwyr ddilyn rheolau llym i reoli llygredd nitradau sy'n dod o arferion amaethyddol.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi cyflwyno dadl ar y cyd yn galw ar y llywodraeth i ail-feddwl.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y mesurau newydd yn rhoi mwy o bwysau ar ffermwyr ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod angen mynd i’r afael â llygredd amaethyddol sy’n effeithio ar ansawdd dŵr yng Nghymru.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am weithredu argymhellion is-bwyllgor Fforwm Rheoli Tir Cymru sydd wedi cynnal gwaith ar lygredd amaethyddol.

Roedd argymhellion yr is-bwyllgor yn cynnwys sefydlu cyfundrefn rheoleiddio gadarn a sicrhau bod cyngor gwell yn cael ei ddarparu i ffermwyr.

‘Dinistriol i ffermwyr’

Dywedodd llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, Samuel Kurtz AS: “Mae penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu Parthau Perygl Nitradau ar draws Cymru yn ddinistriol i ffermwyr Cymru a’n cymunedau gwledig.”

“Rydym yn gobeithio y bydd gweinidogion yn gwrando ar ein galwadau heddiw ac yn sicrhau fod y pwyllgor perthnasol yn y Senedd yn adolygu’r rheoliadau rhain ar frys ac yn cyflwyno ei awgrymiadau”, ychwanegodd.

‘Angen gweithredu’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae llygredd amaethyddol yn cael effaith ar ansawdd dŵr ar draws Cymru gyfan.  Mae’n glir fod un digwyddiad llygru yn un yn ormod, ond mae dros dri bob blwyddyn wedi bod yn ystod y tair blynedd diwethaf yn unig. 

“Mae hyn yn niweidiol i fioamrywiaeth, iechyd cyhoeddus, incymau aelwydydd gwledig, ansawdd dŵr yfed ac yn cyfrannu at newid hinsawdd.

“Mae angen gweithredu a dyna pam mae’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol wedi eu cyflwyno.

“Mae’n rhaid i’r ffocws nawr fod ar weithredu’r rheoliadau i fynd i’r afael â lefelau annerbyniol o lygredd ac rydym yn croesawu trafodaethau ar ddarparu hyn mewn modd effeithiol”.

Mae disgwyl i’r ddadl ddigwydd yn ddiweddarach ddydd Mercher, gydag awr o drafod wedi ei neilltuo yn y siambr ar gyfer y pwnc.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.