Covid hir: ‘Dwi’n berson gwahanol - mae’n anodd derbyn hynna'

Covid hir: ‘Dwi’n berson gwahanol - mae’n anodd derbyn hynna'

ITV Cymru

I filoedd o bobl yng Nghymru, mae Covid-19 wedi trawsnewid eu bywydau yn gyfan gwbl, ac i rai, mae’r feirws yn dal i effeithio ar eu hiechyd yn ddyddiol. 

Mae Sharon Krause, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn dweud ei bod hi wedi “colli blwyddyn” o’i bywyd wrth geisio cael cymorth a thriniaeth i drin ei symptomau o Covid hir. 

“Dwi ddim yn gallu mynd fyny grisiau heb golli fy ngwynt," dywedodd.

"Felly dydw i ddim y person yr oeddwn i cyn Covid, dwi’n berson gwahanol, mae’n anodd derbyn hynna.”

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, mae Sharon yn dweud ei bod hi’n amau iddi ddal y feirws ar ddechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020 ar ôl deffro un bore gyda chur yn ei phen a blinder ofnadwy.

Image
ITV Cymru
Mae Sharon yn credu iddi gael ei heintio ar ddechrau'r pandemig

Ers hynny, mae’n dweud bod amryw o symptomau wedi parhau, ond ei bod hi wedi bod yn anodd cael diagnosis pendant o Covid hir, am na chafodd hi brawf cadarnhaol o’r feirws ar y pryd. Doedd profion torfol ar gyfer Covid-19 ddim wedi eu cyflwyno yng Nghymru tan fis Tachwedd 2020.

“Dwi’n deffro bob bore efo pinnau nodwyddau, dwi’n sychedig iawn yn y nos a thrwy’r dydd, dwi di bod yn cal chest pains fel angina, dwi hefyd wedi bod yn stuttero.  Ac mae gen i boen nerf lawr fy mraich chwith, methu codi fy mraich tu ôl cefn, blinedig ofnadwy, rhai diwrnodau mae rhaid i fi gymryd seibiant neu fynd i gysgu yn pnawn.”

Erbyn heddiw, mae dros 5,500 o bobl wedi marw o Covid-19 yng Nghymru, a dros 200,000 wedi dal y feirws.  Mae arolwg diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod dros 50,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef gyda Covid hir. Mae symptomau yn cynnwys trafferthion anadlu a blinder sy’n gallu para am wythnos neu fisoedd wedi’r haint ymddangos yn y lle cyntaf. 

Mae 'na alwadau am fwy o gymorth i gleifion yng Nghymru ac i sefydlu clinigau arbenigol Covid hir, fel sydd yn Lloegr.  Ond, mae byrddau iechyd ar draws y wlad yn pwysleisio bod gwasanaethau adfer ar gael  - yn cynnwys therapi corfforol a seicolegol i gleifion. 

Mae Rachel Wallbank yn arwain tîm o therapyddion sy’n gweithio fel rhan o’r gwasanaeth adfer ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Mae’n dweud bod tua 400 o gleifion yn defnyddio’r gwasanaeth ar hyn o bryd, gyda nifer fawr o’r rheiny yn fenywod rhwng 35 a 55 oed. 

Image
ITV Cymru
Mae Rachel yn arwain tîm o therapyddion o fewn gwasanaeth adfer Covid-19

“Ry’n ni’n anelu ac yn gobeithio helpu nifer o bobl â'u symptomau gydag ymgynghoriadau ar-lein ond mae’r cleifion dal yn gallu cael defnydd o therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, seicolegyddyddion, dietegwyr a therapyddion lleferydd ac iaith yn ogystal â chefnogaeth o adrannau cardioleg, anadlol, ewroleg, imiwnoleg. Mae ‘na strategaethau i helpu'r rhai gyda'u taith adfer a chyfle i adlewyrchu eu datblygiad" meddai Ms Wallbank.

Er bod Sharon yn un sydd wedi cael ei chyfeirio at y gwasanaeth yma, ac yn falch o gael y gefnogaeth, mae hi dal yn teimlo y byddai cael un clinig arbenigol yng Nghymru yn well. 

“Mi fyswn i’n licio cael profion mewn un clinig lle mae’r arbenigwyr i gyd o dan un do’ a lle bod fi’n cael ‘person centred approach’ ble mae pobl yn gweld pob peth sy’n mynd ymlaen. A bod 'na mond un lle i fynd achos maen cymryd lot o egni i fynd i wahanol referrals i wahanol bobl ac ail adrodd y stori trosodd a throsodd mae hynna'n flinedig iawn.”

Fe wnaeth Y Byd ar Bedwar ofyn i’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS, am gyfweliad ond doedd hi ddim ar gael. Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd bod y Gweinidog yn ystyried yr anghenion sydd gan bobl â Covid hir fel rhan o'r cynllun i adfer y gwasanaeth iechyd wedi’r pandemig, a'u bod nhw'n gweithio gyda chynrychiolwyr sy’n dioddef gyda’r cyflwr yn ystod yr wythnosau nesaf i lunio ymateb pellach.

Ychwanegodd y llefarydd bod y byrddau iechyd yn gweithio gyda meddygfeydd teulu a gwasanaethau cymunedol i sicrhau bod pobl â Covid hir yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau maen nhw eu hangen.

Y Byd ar Bedwar, Nos Fercher 9 Mehefin, 20:25