Newyddion S4C

G7: Cernyw yn paratoi i groesawu arweinwyr byd

Sky News 09/06/2021
Porth Ia, Cernyw

Bydd Cernyw yn dechrau croesawu rhai o arweinwyr mwyaf pwerus y byd nos Fercher ar gyfer Uwchgynhadledd y G7.

Yn ôl Sky News, mae miloedd o gynrychiolwyr, newyddiadurwyr a swyddogion yr heddlu yn y sir yn rhan o'r paratoadau.

Bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn croesawu arweinwyr Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Japan, Canada a'r UDA i Fae Carbis ym Mhorth Iâ.

"Dyma'r digwyddiad diogelwch a phlismona mwyaf yn Lloegr eleni," meddai'r Uwcharolygydd Joanne Hall, o Heddlu Dyfnaint a Chernyw, wrth Sky News.

"Gallwch chi ddychmygu'r cymhlethdodau sy'n dod gyda hyn, yr heriau logistaidd - ond rydyn ni wedi bod yn cynllunio ers misoedd bellach ac rydyn ni'n barod ac wedi paratoi ar gyfer y digwyddiad hwn."

Mae tua 6,500 o heddweision o bob llu yn Lloegr yng Nghernyw er mwyn "amddiffyn yr uwchgynhadledd".

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.