Newyddion S4C

Rhys Ifans yn cefnogi ymgyrch i geisio achub tafarn leol

North Wales Live 09/06/2021
Tyn Llan, Llandwrog

Mae cymuned yng Ngwynedd sy'n ceisio achub eu tafarn leol wedi cael cefnogaeth gan yr actor Rhys Ifans.

Mae tafarn Ty'n Llan yn Llandwrog wedi bod ar gau ers 2017, meddai North Wales Live.

Hyd yn hyn, mae Menter Ty'n Llan, a gafodd ei sefydlu ym mis Chwefror wedi codi 70% o'i darged o £400,000.

Mae Rhys Ifans wedi sgwrsio mewn fideo yn annog pobl i helpu'r gymuned drwy fuddsoddi yn y "fenter fendigedig" hon.

Dywedodd yr actor, a gafodd ei fagu yn Rhuthun: "Mae tafarn dda yn galon i'r gymuned, ond dydi hi ddim os ydi hi wedi cau. 

"Felly mae pobl Llandwrog am brynu ac ailagor hen dafarn Ty'n Llan, a dod a'r hen hwyl yn ei ôl i'r pentref unwaith eto. Ond mae angen gwaith, mae angen cefnogi, ac yn fwy na dim mae angen pres, a rŵan di'ch cyfle chi."

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.