
Trydaneiddio rheilffordd y gogledd 'i gymryd o leiaf degawd'
Byddai'r gwaith o drydanieddio’r rheilffordd yng ngogledd Cymru yn cymryd o leiaf degawd i’w gyflawni, yn ôl Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters AS.
Mewn araith yng nghynhadledd y blaid Geidwadol ym Manceinion ddydd Mercher, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Rishi Sunak y byddai rhan o'r prosiect rheilffordd cyflymder uchel rhwng Llundain a Manceinion yn cael ei ddiddymu.
Fel rhan o’r cyhoeddiad, dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn buddsoddi £36 biliwn o bunnoedd mewn prosiectau trafnidiaeth ar draws y Deyrnas Unedig – gan gynnwys £1 biliwn er mwyn trydaneiddio’r brif reilffordd ar arfordir gogledd Cymru.
Wrth ymateb yn y Senedd yn ddiweddarach ddydd Mercher, dywedodd Lee Waters AS, y llefarydd dros faterion trafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, nad oedd y prosiect "yn agos at frig rhestr blaenoriaethau" rheilffyrdd yng Nghymru yn y trafodaethau blaenorol rhwng y ddwy lywodraeth.

Wrth ofyn i Mr Waters am ei ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Delyth Jewell AS, sy’n cynrychioli Plaid Cymru: “Gymaint a fyddwn ni’n croesawu trydaneiddio’r prif linell yng ngogledd Cymru – ac mi fydden ni’n croesawu hynny – ni fyddai hynny, mewn unrhyw ffordd, yn cymryd lle'r arian rydym eisoes wedi ei golli yn ystod cyfnod cyntaf y prosiect HS2. Mae hynny oddeutu dwbwl yr arian sydd wedi ei addo nawr ar gyfer llinell y gogledd.
“Dw i’n ofni efallai fod hyn yn beth sinigaidd i’w ddweud, ond efallai fod Mr Sunak yn gwybod na fyddai â’r pŵer i gyflawni’r addewid yna. Cawn weld.”
Dywedodd Mr Waters: “Mae’n gwbl glir fod diddymu’r prosiect HS2, o safbwynt trafnidiaeth, yn gynllun wedi ei hanner bobi. Does dim strategaeth neu gynllun y tu ôl iddo. Nid ydym yn gwybod llawer o’r manylion.
"Mewn egwyddor, mae’n rhywbeth i’w groesawu fod cynlluniau eraill yn cael eu hariannu yn ei le, gan y byddwn ni’n disgwyl cyfraniad o hynny yn ôl y trefniant Barnett, er mwyn i ni ariannu ein prif flaenoriaethau. Ond eto, dy’n ni ddim yn gwybod unrhyw beth am hynny; dy’n ni heb gael unrhyw sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda nhw a’u swyddogion, dros sawl mis, i lunio rhestr o flaenoriaethau ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd, oherwydd bod isadeiledd y rheilffyrdd yn gyfrifoldeb ar San Steffan. Rydym yn agos i’r pwynt ble’r rydym yn cytuno ar dri chymal o’r rhestr y gallwn gytuno yw’r rhai cywir ar gyfer Gymru.
“Ac mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw trydaneiddio’r llinell yng ngogledd Cymru yn agos at frig y rhestr yna. Mae’n ffaith y byddai’n cymryd o leiaf 10 mlynedd. Cyn belled â‘da ni’n ymwybodol, does dim gwaith datblygu wedi ei wneud o gwbl – dim. Does gennym ni ddim syniad beth fyddai’r gost. £1 biliwn yw’r ffigwr sydd wedi ei ddyfynnu. Mae hwn yn ffigwr bys-yn-yr-awyr, a dw i ddim yn gwybod o ble mae e ‘di dod.”
'Gweithredu pendant'
Mewn ymateb, fe wnaeth Natasha Asghar AS o’r Ceidwadwyr Cymreig groesawu’r cyhoeddiad gan Mr Sunak, gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o ‘adael pobl Cymru i lawr’ dros gynlluniau trafnidiaeth.

“Heddiw, fe welsom weithredu pendant gan y Prif Weinidog, fydd yn arwain at lawer o fuddion i Gymru. Ers rhy hir, mae pobl Cymru wedi eu gadael i lawr, yn enwedig o safbwynt trafnidiaeth. Ond yn ffodus, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi camu i’r adwy dros Gymru ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos eu hymrwymiad i Gymru.
“O ganlyniad i’r penderfyniad i ddiddymu’r cymal HS2 rhwng Manceinion a Birmingham, bydd y £36 biliwn sy’n cael ei arbed yn cael ei wario ar gannoedd o brosiectau ar draws y DU sydd wir angen y buddsoddiad.
"Mae hyn yn cynnwys y £1 biliwn ar drydaneiddio’r prif linell yng ngogledd Cymru, fydd yn dod a buddion enfawr i’r ardal, heb os, yn enwedig i drigolion y gogledd. O ganlyniad, fe fydd Cymru yn derbyn arian yn ôl y trefniant.”