Newyddion S4C

Cyhoeddi mai Robert Francis Prevost yw'r Pab newydd Leo XIV

Cyhoeddi mai Robert Francis Prevost yw'r Pab newydd Leo XIV

Robert Francis Prevost yw'r Pab newydd ac arweinydd newydd yr Eglwys Gatholig. 

Fe fydd yn cael ei gyfeirio ato fel y Pab Leo XIV . 

Y Pab Leo XIV ydy'r dyn cyntaf o ogledd America i gael ei ethol yn arweinydd yr Eglwys Gatholig.

Ymddangosodd ar falconi Basilica San Pedr ychydig wedi awr ar ôl i fwg gwyn godi o simnai Capel Sistina brynhawn Mercher i nodi fod Pab newydd wedi'i ethol. 

Mae'r Pab Leo XIV yn dod o Chicago yn UDA ac mae'n 69 oed. 

Brynhawn Mercher, fe wnaeth mwg gwyn godi o simnai Capel Sistina yn ninas y Fatican gan gyhoeddi bod y Cardinaliaid yno wedi dewis Pab newydd.

Roedd gorfoledd yn y dorf wrth i glychau gael eu canu i gadarnhau'r newyddion. 

Fe ddechreuodd 133 o Gardinaliaid y broses o bleidleisio i ddewis y Pab newydd brynhawn ddydd Mercher.

Daeth mwg du nos Fercher a bore Iau, gan gadarnhau nad oedd Pab newydd wedi'i ethol eto. 

Ond ychydig wedi 17:00 brynhawn Iau, daeth mwg gwyn yn arwydd fod Pab newydd wedi'i ethol.

Roedd y dorf yn Y Fatican wedi bod yn gweiddi 'Habemus Papam' sy'n golygu 'Mae gennym Bab' ers i'r mwg gwyn godi o'r simnai. 

Rhagor i ddilyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.