Dau blentyn wedi'i canfod yn ddiogel wedi ymgyrch chwilio ar arfordir Sir Benfro
Mae dau blentyn yn ddiogel wedi ymgyrch chwilio ar arfordir Sir Benfro brynhawn dydd Gwener.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i ardal Abereiddi, ardal sy'n boblogaidd ar gyfer gweithgareddau awyr agored, wedi adroddiadau bod y ddau blentyn ar goll yn ystod taith arfordira (coasteering).
Dywedodd Gwylwyr y Glannau Abergwaun eu bod wedi cael eu galw am 14:53 i gynorthwyo Heddlu Dyfed-Powys.
Cafodd timau Gwylwyr y Glannau Abergwaun a Thyddewi eu hanfon i'r ardal, ynghyd â bad achub RNLI Tyddewi a hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau.
Mae cofnodion yr RNLI yn dangos bod bad achub Tyddewi wedi lansio am 14:50.
Tra oedd y gwasanaethau brys ar eu ffordd, daeth cadarnhad bod y ddau blentyn wedi eu canfod yn ddiogel ac yn iach.
Daeth yr ymgyrch chwilio i ben wedi hynny.