Newyddion S4C

Dr Simon Brooks yn rhoi'r gorau i swydd am y tro er mwyn derbyn triniaeth canser

simon brooks.jpg

Bydd Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, Dr Simon Brooks, yn camu yn ôl o'i rôl am gyfnod a hynny am ei fod yn derbyn triniaeth canser.

Mae'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg sydd wedi ei gadeirio gan Dr Brooks wedi bod yn ymchwilio i sefyllfa’r Gymraeg yng nghymunedau Cymru a'r heriau y maent yn eu hwynebu.

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, sef is-gadeirydd yr ail Gomisiwn, fydd yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd dros dro.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS, ei fod wedi derbyn gohebiaeth yn rhoi gwybod y bydd Dr Brooks yn "cymryd cam yn ôl am gyfnod fel Cadeirydd ail gam y Comisiwn."

Ychwanegodd Mr Drakeford ei fod yn "dymuno’r gorau i Simon yn ystod y driniaeth ac yn edrych ymlaen iddo ail gydio yn y gwaith cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol bosib.

"Hoffwn ddiolch yn fawr iddo am ei waith cynhwysfawr ac am ei weledigaeth a’i arweiniad."

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn swyddogol i'r adroddiad 'Grymuso Cymunedau, cryfhau’r Gymraeg' ar 29 Mai yn Eisteddfod yr Urdd. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.