Dau chwaraewr o Gymru yng ngharfan y Llewod
Dau chwaraewr o Gymru yng ngharfan y Llewod
Mae dau chwaraewr rygbi Cymru wedi eu henwi yng ngharfan y Llewod ar gyfer y daith i Awstralia yr haf hwn.
Mae blaenasgellwr y Gweilch Jac Morgan a mewnwr Caerloyw Tomos Williams wedi eu cynnwys yn y garfan o 38 chwaraewr.
Mae'r prif hyfforddwr Andy Farrell wedi cyhoeddi mai Maro Itoje fydd y capten ar gyfer y daith.
Dyma fydd taith gyntaf y Llewod i 26 o'r chwaraewyr, tra y bydd naw yn chwarae yn eu hail daith.
Dyma'r tro cyntaf i garfan y Llewod fod heb chwaraewyr o'r Scarlets ers 1983.
Dywedodd Cadeirydd y Llewod, Ieuan Evans: "Roedd hi'n fraint mawr i mi gyhoeddi'r chwaraewyr a gafodd eu cyhoeddi gan Andy Farrell a'i hyfforddwyr ar gyfer Taith Awstralia 2025.
"Dwi'n dymuno'n dda i'r chwaraewyr a'n capten newydd Maro Itoje.
"Maen nhw'n ddyddiau arbennig a dwi'n siwr y bydd y chwaraewyr yn parhau i ddangos yr hyn sydd ei angen i fod yn rhan o'r Llewod yn yr wythnosau sy'n weddill o'r tymor cyn hedfan i Awstralia."