Newyddion S4C

Gyrrwr Ferrari o Lundain oedd wedi ei wahardd yn cael ei ddal yn Sir Conwy

Ferrari Cerrigydrudion

Fe gafodd car Ferrari ei stopio ger Cerrigydrudion yn Sir Conwy dros y penwythnos ar ôl adroddiadau fod y car wedi cael ei yrru ar gyflymder uchel ac yn ddiofal.

Dywedodd Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd fod y gyrrwr wedi teithio i ogledd Cymru o Lundain, ac roedd hefyd wedi'i wahardd rhag gyrru ar y pryd.

Fe gafodd y dyn ei riportio i'r heddlu am yrru tra'r oedd wedi'i wahardd, am yrru yn ddiofal ac am groesi llinell wen heb ei thorri.

Ychwanegodd y llu fod diogelwch ar y ffyrdd yn "gyfrifoldeb i ni gyd - fel gyrrwr, beiciwr modur neu feiciwr, felly hoffem gymryd y cyfle yma i ofyn i bawb gymryd gofal ychwanegol tra ar y ffyrdd, i feddwl am eich ymddygiad a pha newidiadau y mae modd i chi eu gwneud i wella eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.