Cwtogi llwybr HS2: Rheilffordd gogledd Cymru i gael ei drydaneiddio
Cwtogi llwybr HS2: Rheilffordd gogledd Cymru i gael ei drydaneiddio
Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd rheilffordd gogledd Cymru yn cael ei drydaneiddio wrth iddo gwtogi HS2.
Wedi dyfalu cynyddol ers wythnosau, cadarnhaodd na fydd y prosiect rheilffordd cyflym HS2 rhwng Birmingham a Manceinion yn digwydd.
Yn hytrach, dywedodd y bydd “pob rhanbarth y tu allan i Lundain” yn cael arian.
"Fe fyddwn ni'n trydaneiddio y brif reilffordd yng ngogledd Cymru," meddai ymysg cyfres o gyhoeddiadau yn ystod ei araith i gynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion.
Wrth ymateb i hynny, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies AS: “Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych i Gymru, gyda buddsoddiad sylweddol i drydaneiddio y brif reilffordd yng Ngogledd Cymru.
"Yn ogystal, bydd Cymru yn derbyn buddsoddiad pellach trwy'r trefniant Barnett yn sgil buddsoddiadau mewn prosiectau lleol yn Lloegr."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford nad oes "modd honi fod HS2 yn gynllun Cymru a Lloegr bellach.
"Mae’n amlwg mai cynllun i Loegr yn unig yw HS2, neu beth bynnag sydd yn weddill ohono. Mae nawr angen i Lywodraeth y DU weithredu a rhoi’r arian sy'n ddyledus i bobl Cymru o’r cynllun aflwyddiannus hwn."
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, "cynllun rheilffordd cyflym i Lundain yw hwn" tra bod "Cymru yn cael briwsion oddi ar y bwrdd."
Ychwanegodd: “Ni allwn gredu gair y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud ar drydaneiddio. Am flynyddoedd, addawodd y Torïaid y byddai'r rheilffordd yn Ne Cymru yn cael ei thrydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe, cyn cael gwared â'r cynllun."
Inline Tweet: https://twitter.com/PrifWeinidog/status/1709508287362716082
Yn ei araith , dywedodd Rishi Sunak bod y syniad bod angen cysylltu dinasoedd Lloegr o’r gogledd i’r de yn “gonsensws ffals”.
“Mae angen cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn y gogledd,” meddai. “Dyma fydd ein blaenoriaeth.
“HS2 yw’r esiampl o’r hen gonsensws. Mae’r costau wedi mwy na dyblu ac ni fydd yn cyrraedd Manceinion am 20 mlynedd.
“Mae’r achos busnes wedi ei wanhau gan y newid i arferion busnes ar ôl Covid.
“Y peth iawn i’w wneud pan mae’r ffeithiau yn newid yw’r bod yn ddigon dewr i newid cyfeiriad.
“Felly rydw i’n dod a’r saga yma i ben ac yn canslo gweddill HS2.
“Byddaf yn ail-fuddsoddi 36 biliwn mewn cannoedd o brosiectau yn y gogledd a chanolbarth Lloegr."
Cadarnhaodd Mr Sunak hefyd y bydd y rheilffordd HS2 yn cyrraedd gorsaf Euston yng Nghanol Llundain yn hytrach na dod i ben yn Old Oak Common yng ngorllewin y ddinas. Ond addawodd y bydd yn cadw llygad barcud ar gostau'r prosiect.
Mae maer Manceinion, Andy Burnham o'r Blaid Lafur wedi beirniadu'r penderfyniad i roi'r gorau i'r prosiect rhwng Birmingham a Manceinion gan ddweud fod yna "rwystredigaeth a dicter."
Ychwanegodd: "Mae'n ymddangos o hyd fod y bobl yma lle 'dw i'n byw yn medru cael eu trin fel dinasyddion eilradd wrth ystyried trafnidiaeth."
'Penderfyniad anghywir'
David Cameron oedd y Prif Weinidog pan gafodd y cynllun HS2 ei chyhoeddi yn 2012, ac roedd y cyn Prif Weinidog yn sgil y cyhoeddiad ym Manceinion.
Inline Tweet: https://twitter.com/David_Cameron/status/1709579002220867922?s=20
"Mae'r penderfyniad heddiw ynglŷn â HS2 yn anghywir," meddai.
"Y syniad y tu ôl i HS2 oedd buddsoddi yn yr hir dymor, dod a phobl y wlad at ei gilydd a sicrhau economi fwy cytbwys.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn taflu pymtheg mlynedd o gonsensws draws-bleidiol, sydd wedi parhau yn ystod chwe gweinyddiaeth, ac fe fydd y eu gwneud yn llawer iawn anoddach i adeiladu consensws ar gyfer unrhyw brosiectau hir-dymor yn y dyfodol."